Mae Stiwdio Clwyd yn stiwdio ddatblygu genedlaethol sy’n cefnogi crëwyr theatr ledled Cymru ym mhob cam o’u gyrfaoedd.
Rydyn ni’n rhoi gofod a strwythur i artistiaid feithrin sgiliau, rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio, cysylltu ag eraill yn y diwydiant, a datblygu eu crefft mewn amgylchedd sy’n annog arbrofi, cydweithredu a chwarae.
Mae Stiwdio Clwyd yn gartref i’r rhai sy’n uchelgeisiol yn artistig, yn ofod ar gyfer arbrofi ac archwilio creadigol, trylwyr ac yn lle i chwarae o ddifrif.
Mae Stiwdio Clwyd yma i wneud y canlynol:
Cefnogi
crëwyr theatr proffesiynol yng Nghymru i ehangu eu sgiliau, adlewyrchu’n drylwyr i wella eu dysgu, a gweithio ar y cyd i oresgyn yr heriau sy’n bodoli ar draws y sector.
Cysylltu
â chrëwyr theatr, cwmnïau ac arloeswyr eraill drwy waith partneriaeth i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Effeithio
ar greadigrwydd artistiaid unigol a chrëwyr theatr i sicrhau gwaddol hirhoedlog ar gyfer ecoleg y theatr.
Mae Stiwdio Clwyd wedi’i lleoli yn Theatr Clwyd ond nid yw wedi’i chyfyngu i gefnogi gwaith a fyddai’n ffitio o fewn rhaglennu Theatr Clwyd yn unig.
Mae hyn yn golygu’r canlynol:
- Nid sefydliad comisiynu mohono – ni fyddwn yn comisiynu nac yn rhaglennu gwaith.
- Nid yw’n bibell gyflenwi ar gyfer Theatr Clwyd – nid ydym yn eich “clyweld” chi na’ch gwaith ar gyfer Theatr Clwyd.
- Nid yw’n ofod – nid ydym yn stiwdio gorfforol nac yn ofod theatr ond yn gobeithio treiddio i sawl gofod gwahanol – rhithwir a chorfforol.
- Nid yw’n gyfyngedig i’r rhanbarth – Theatr Clwyd sy’n ein harwain ni, ond nid ydym yn gwasanaethu crëwyr theatr Gogledd Cymru yn unig. Rydym yn annog artistiaid ledled y wlad i gymryd rhan.
Crëwyd Egwyddorion Arweiniol Stiwdio Clwyd drwy ddeialog gyda mwy nag 800 o grëwyr theatr ledled Cymru.
Our Priorities
Bob blwyddyn, mae Stiwdio Clwyd yn canolbwyntio ar ddwy flaenoriaeth strategol i greu newid ystyrlon ym myd y theatr yng Nghymru, yn cyd-fynd ag anghenion y sector. Caiff y rhain eu gwireddu drwy raglenni blaenllaw sy’n darparu cefnogaeth a chyfleoedd, gan ategu mentrau datblygu artistiaid eraill ar gyfer effaith haenog.
Yn ein blwyddyn gyntaf, byddwn yn ymyrryd yn feiddgar â thirlun y theatr ac yn cynnig cefnogaeth ddidwyll i grëwyr theatr mewn dau faes allweddol o angen. Drwy Rhwygo’r To i Ffwrdd a Sbarcs, ein nod ni yw helpu crëwyr theatr proffesiynol mewn ffyrdd sy’n arwain at gefnogaeth hirdymor a newid parhaol.
Our flagship programmes will be complemented by a diverse array of initiatives, events, partnerships and opportunities to support, connect and empower Welsh artists and theatre-makers. These will have a focus on inclusivity, innovation, access, development, and sustainability. They will work alongside, and in conjunction with, the work already being delivered by organisations across Wales, to deliver support to creatives Wales-wide.
Mae’n bwysig cydnabod na allwn ni wneud popeth i bawb. Rydyn ni’n gyffrous am weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt sydd eisoes yn gwneud cymaint i gefnogi crëwyr theatr.
Rydyn ni’n dechrau yma. Rydyn ni’n gobeithio tyfu.
Y wefan hon
Gwefan Stiwdio Clwyd yw eich platfform chi i gael mynediad at gefnogaeth a datblygiad, hwb canolog ar gyfer cyfleoedd ac adnoddau, a dull o ddathlu mentrau ledled Cymru.
Rydyn ni eisiau i hwn fod yn ofod buddiol i grëwyr theatr ddysgu am gyfleoedd a digwyddiadau a all gefnogi eu harfer, i deimlo’n rhan o ecoleg byd y theatr yng Nghymru.
Mae – a bydd bob amser – yn waith sydd ar y gweill. Rydyn ni eisiau iddo fod yn ddefnyddiol ac yn ymatebol i artistiaid. Os oes gennych chi adnodd rydych chi’n meddwl sy’n wych ac yn ddefnyddiol i grëwyr theatr eraill, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio ei rannu. Os oes gennych chi gyfle i grëwyr theatr, llenwch ffurflen a gallwn ni dynnu sylw ato.
Pwy rydyn ni’n ei gefnogi, a sut
Bydd Stiwdio Clwyd yn cefnogi pob math o greu theatr – awduron, cyfarwyddwyr, actorion, cynhyrchwyr, dylunwyr, technegwyr, rheolwyr llwyfan, ymarferwyr symudiad ac ati… Bydd rhai rhaglenni’n canolbwyntio ar feysydd penodol a bydd eraill yn ffordd i ni ymgysylltu â chrëwyr theatr o unrhyw ddisgyblaeth.
Mae rhai o’r rhaglenni eraill sydd i ddod rydyn ni wrth ein bodd yn eu rhannu gyda chi yn cynnwys Ysgrifennu Gyda… cydweithrediad gyda Theatr y Sherman, ac Ysbrydoli, cyfres o sgyrsiau ar-lein am Arweinyddiaeth Artistig mewn Cyfnodau Anodd.
Byddwn yn parhau i gynnig cyfleoedd a digwyddiadau i grëwyr theatr ledled Gogledd Cymru drwy ein Rhwydwaith Artistiaid Lleol yn Theatr Clwyd, ond byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â theatrau a chwmnïau ledled Cymru i gefnogi crëwyr theatr yn eu hardal.
Mae Stiwdio Clwyd yn fwy na lle. Mae’n ethos i ddathlu, herio, meithrin.
Os oes gennych chi syniadau neu ymholiadau, cysylltwch â ni ar stiwdio@theatrclwyd.com.
