Oes gennych chi brosiect rydych chi’n gyffrous amdano, ond yn methu â meddwl sut i’w symud ymlaen? Treuliwch amser gyda Chynhyrchydd yn Theatr Clwyd a chael cyngor adeiladol a chefnogol ar eich cam nesaf. Bydd y sesiynau yma’n rhoi’r ffocws lle mae arnoch ei angen fwyaf, sy’n golygu y gallwn deilwra’r drafodaeth i ganolbwyntio ar gyllid, cynllunio prosiectau, datblygu partneriaethau neu rywbeth hollol wahanol. Archebwch eich slot i ymuno â ni am baned a sgwrs!
Amser penodol gyda Chynhyrchydd i drafod rhwystrau logistaidd neu ymarferol i wireddu eich prosiectau.
Mae’r slot hwn gyda Branwen Jones, ac mae ar gael yn Saesneg neu’n Gymraeg.
Sylwch: Mae’r sesiynau yma’n gyfarfodydd un i un, wedi’u cynllunio i gefnogi artistiaid sydd â syniadau, prosiectau neu broblemau penodol maen nhw’n chwilio am gyngor arnynt. Nid ydynt wedi’u cynllunio i archwilio cysyniadau creadigol neu syniadau ddramatwriaethol, ond yn hytrach i roi cymorth logistaidd a chynllunio yn unol â nodau presennol artist. Disgwylir i bawb sy’n archebu sesiwn ddarparu dadansoddiad 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw o leiaf sy’n cwmpasu eu syniad, eu rhwystrau presennol, ac (os yw’n berthnasol) eu cyllideb.
Os ydych chi’n chwilio am gefnogaeth gyffredinol neu gyngor gyrfaol, cysylltwch â stiwdio@theatrclwyd.com i drefnu cyfarfod.


