Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.
Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.
Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.
Bydd y sesiwn hon o Ysgrifennu Gyda… yn cael ei harwain gan Vinay Patel .
Mae Vinay Patel yn sgriptiwr o Dde-ddwyrain Llundain. Enillodd ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu, Murdered By My Father , 2 Wobr RTS gan gynnwys y Ddrama Sengl Orau ac fe’i henwebwyd am dair BAFTA. Ers hynny mae Vinay wedi ysgrifennu penodau ar gyfer Good Karma Hospital , Doctor Who ac, yn fwyaf diweddar, addasiad Netflix o One Day gan David Nicholls. Mae’n datblygu cyfres deledu gyda Motive Pictures/Fifth Season a rhaglen chwaraeon hanesyddol gyda Film4.
Ar gyfer y theatr, mae wedi ysgrifennu epig ramantus ( An Adventure ) ar gyfer y Bush, dychan swyddfa am iaith a thramgwydd ( Sticks & Stones ) ar gyfer Paines Plough ac addasiad ffuglen wyddonol De Asiaidd o The Cherry Orchard , ar gyfer y Yard/HOME. Ar hyn o bryd mae’n ddramodydd cysylltiol yn Theatr y Royal Court, yn ddramodydd preswyl yn y Royal Shakespeare Company, yn ogystal â gweithio ar sawl prosiect ar gyfer y llwyfan gan gynnwys drama i Empire Street Productions, addasiad o Cloud Atlas ar gyfer English Touring Theatre a sioe gerdd i ATG.
Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr Sherman.



