Gofod i grëwyr theatr o Ogledd Cymru gysylltu, cydweithredu a chefnogi ei gilydd.
“Fe allwch chi oroesi fel artist o Gymru, gan fyw a gweithio yng Nghymru!” Cyfarwyddwr ac aelod o Rwydwaith Artistiaid Lleol Stiwdio Clwyd
Mae’r Rhwydwaith Artistiaid Lleol yn gyfle i grëwyr theatr sydd wedi’u lleoli ger Theatr Clwyd ddod at ei gilydd i greu cymuned artistig gref lle mae posib rhannu syniadau, profiadau ac ysbrydoliaeth. Os ydych chi’n actor, yn awdur, yn gyfarwyddwr neu’n ymarferydd creadigol, ymunwch â ni i gwrdd ag artistiaid tebyg i chi a thyfu gyda’ch gilydd.
Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn cynnal digwyddiadau, sgyrsiau, cyfleoedd rhwydweithio a gweithdai datblygu yn Theatr Clwyd gyda’r nod o feithrin ecoleg y theatr leol i ffynnu. Mae’r digwyddiadau yma’n cael eu curadu mewn ymateb i ymgynghori manwl â’r Rhwydwaith. Maen nhw fel a ganlyn:
Digwyddiadau Artistiaid Lleol – rhaglen amrywiol o weithdai a sesiynau rhwydweithio wyneb yn wyneb, pob un yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar greu theatr.
Campfeydd Actorion – gofod wedi’i guradu’n rheolaidd i actorion ym mhob cam o brofiad archwilio, chwarae a thyfu eu cyhyrau actio.
Cymorthfeydd Cynhyrchwyr – amser un i un pwrpasol gyda Chynhyrchydd Theatr Clwyd i drafod rhwystrau logistaidd neu ymarferol i wireddu eich prosiectau.
Cofrestru
Os oes gennych chi ganolfan yn Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint ac eisiau derbyn cylchlythyr rheolaidd gan y Rhwydwaith Artistiaid Lleol, cofrestrwch yma.
–>
