Ysgrifennu Gyda…

Mewn partneriaeth â Theatr Sherman

Mae Stiwdio Clwyd yn cydweithio â Theatr Sherman i ddod â Write With… i chi – sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd, a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel awdur proffesiynol.

Ydych chi’n teimlo’n styc ac eisiau syniadau i symud ymlaen? Ydych chi’n chwilio am anogaeth neu gymhelliant ar gyfer yr hyn rydych chi’n gweithio arno? Ydych chi eisiau siarad drwy foment mewn sgript er mwyn cael persbectif newydd?

Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.


Sut mae’n gweithio?

Mae’r sesiwn yn cynnwys dwy awr a hanner i ganolbwyntio ar eich ysgrifennu ochr yn ochr ag awduron eraill.

Bob mis bydd y gofod yn cael ei rannu gydag Awdur Gwadd a fydd yn cynnig rhai ysgogiadau, yn gwneud sesiwn Holi ac Ateb, yn bod yn rhan o sgwrs am eich proses chi fel awdur ac yn annog eich dawn greadigol.

Byddwch yn cael amser hefyd i ysgrifennu, i gael eich ysbrydoli gan bobl eraill sy’n ysgrifennu, i osod nod i chi’ch hun a chael yr amser a’r gofod i’w gyflawni.

Rhwng y sesiynau hyn, bydd Stiwdio Clwyd a Theatr y Sherman yn cynnal sesiynau cadw mewn cysylltiad misol – i gynnal momentwm a chymuned a, gobeithio, i sicrhau eich bod chi’n dal ati i ganolbwyntio ar gyflawni eich nodau ysgrifennu.

Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr Sherman na Theatr Clwyd – maen nhw i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, adeiladu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.


Ein Hawduron Gwadd