Rhaglen flaenllaw ar gyfer creu theatr ar raddfa fawr yng Nghymru.
Mae Rhwygo’r To i Ffwrdd yn rhaglen ddatblygu chwe mis newydd feiddgar ar gyfer crëwyr theatr yng Nghymru sy’n barod i greu gwaith ar raddfa fawr – ar gyfer llwyfannau mawr, cynulleidfaoedd eang, a theithio cenedlaethol / rhyngwladol.
Rydyn ni’n dewis Carfan o 10 artist ar draws pedair disgyblaeth – 3 dramodydd, 3 chyfarwyddwr, 2 gynllunydd, a 2 gynhyrchydd creadigol – i ymuno â rhaglen o gyfnodau preswyl gyda thâl, lleoliadau, mentora, a dosbarthiadau meistr yn y diwydiant.
Nod Rhwygo’r To i Ffwrdd yw cefnogi crëwyr theatr yng Nghymru i ehangu eu harfer y tu hwnt i stiwdios ac adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy sy’n cael eu gyrru gan uchelgais a photensial masnachol. Mae’r rhaglen wedi cael ei chynllunio i feithrin y sgiliau, yr arweinyddiaeth, y rhwydweithiau a’r hyder sydd eu hangen ar artistiaid i ehangu’n greadigol ac yn broffesiynol – ac i’w cysylltu â lleoliadau, comisiynwyr a chynhyrchwyr sy’n barod i gefnogi gwaith uchelgeisiol.
Bydd Rhwygo’r To i Ffwrdd yn helpu i siapio’r sîn theatr yng Nghymru, gan sicrhau bod lleisiau uchelgeisiol Cymru yn cael eu dathlu ar lwyfannau mawr.
Beth am i ni greu theatr feiddgar, wych ac uchelgeisiol yng Nghymru. Beth am i ni adeiladu’r dyfodol. Beth am i ni rwygo’r to.
Eisiau gwybod mwy?
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais, cofrestrwch ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb ar-lein gyda thîm Stiwdio Clwyd yn naill ai:
- 1pm ar ddydd Mercher 4ydd Chwefror 2026
- 5pm ar nos Iau 5ed Chwefror 2026
E-bostiwch stiwdio@theatrclwyd.com i gofrestru.
Dyddiad Cau Ceisiadau
6pm ar nos Lun 16eg Chwefror 2026
Os yw unrhyw ran o’r wybodaeth yma’n aneglur, neu os oes arnoch chi angen help i’w chael mewn unrhyw fformatau eraill, cysylltwch â stiwdio@theatrclwyd.com a byddwn yn eich cynorthwyo.
Cyflwynir Rhwygo’r To i Ffwrdd gyda chefnogaeth Cyngor Celfddydau Cymru.
CCs
Beth yw Rhwygo’r To i Ffwrdd?
Mae Rhwygo’r To i Ffwrdd yn rhaglen chwe mis gan Stiwdio Clwyd sydd wedi’i chynllunio i helpu crëwyr theatr yng Nghymru i ehangu eu harfer a datblygu’r sgiliau i greu gwaith uchelgeisiol ar raddfa fawr.
Mae’n dod â dramodwyr, cyfarwyddwyr, cynllunwyr a chynhyrchwyr creadigol at ei gilydd i gydweithredu, dysgu gan ymarferyddion blaenllaw yn y DU, ac archwilio beth yw theatr ar raddfa fawr yng Nghymru a thu hwnt.
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?
Mae’r rhaglen ar gyfer crëwyr theatr yng nghanol eu gyrfa sy’n barod i ehangu eu gwaith. Rydym yn chwilio am y canlynol:
- 3 Dramodydd
- 3 Chyfarwyddwr
- 2 Gynllunydd (set a / neu wisgoedd)
- 2 Gynhyrchydd Creadigol
Dylai ymgeiswyr fod â mwy na 5 mlynedd o brofiad proffesiynol, ond ni ddylent fod wedi arwain na chreu cynyrchiadau ar raddfa fawr eto.
Beth mae “canol gyrfa” yn ei olygu?
At ddibenion y cynllun hwn, dylai ymgeiswyr fod â mwy na 5 mlynedd o brofiad proffesiynol ac uchelgais i wneud gwaith ar raddfa fawr ar gyfer cynulleidfaoedd mawr.
Beth mae’r rhaglen yn ei gynnwys?
Dros gyfnod o chwe mis, bydd y cyfranogwyr (a fydd yn cael eu galw yn ‘Y Garfan’) yn cymryd rhan yn y canlynol:
- Mentora gyda chrëwyr theatr blaenllaw yn y DU
- Cyfnodau preswyl ar gyfer archwilio creadigol a chydweithredu
- Dosbarthiadau meistr ar-lein ar gynhyrchu, cyfarwyddo, cynllunio ac arweinyddiaeth
- Lleoliadau unigol gyda theatrau a chwmnïau partner
- Cynlluniau datblygu wedi’u teilwra ar gyfer pob artist
- Rhwydweithio ag arweinwyr a chomisiynwyr y diwydiant
Pryd mae’n digwydd?
Mae’r cynllun yn weithredol rhwng 1af Mehefin 2026 a 30ain Tachwedd 2026. Bydd cyfnodau preswyl yn cael eu cynnal yn Theatr Clwyd, gyda lleoliadau a digwyddiadau ledled Cymru a’r DU yn ehangach.
A yw’n llawn amser?
Nac ydi — mae’r rhaglen yn rhan amser ac yn hyblyg, wedi’i chynllunio i gyd-fynd ag ymrwymiadau proffesiynol presennol. Rhaid i chi fod ar gael, fodd bynnag, ar gyfer y canlynol:
- Tri chyfnod preswyl ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, mis Medi a mis Tachwedd
- Sesiynau ar-lein rheolaidd
- Dau drip i’r theatr
- Cyfarfodydd gyda’ch mentor
- Lleoliad byr o tua 2 wythnos
Oes tâl i’w gael?
Oes. Mae’r cyfranogwyr yn cael ffi yn unol â chyfraddau cyflog llawrydd Theatr Clwyd i gefnogi eu hamser ar y rhaglen. Bydd costau teithio, llety a mynediad yn cael eu talu hefyd. Am fanylion llawn, edrychwch ar y pecynnau gwybodaeth unigol ar gyfer pob disgyblaeth.
Pa fath o artistiaid ydych chi’n chwilio amdanyn nhw?
Rydyn ni’n chwilio am chwilio sy’n:
- Uchelgeisiol a chwilfrydig am waith ar raddfa fawr
- Cyffrous i gydweithredu a rhannu arfer
- Wedi ymrwymo i fyd y theatr yng Nghymru
- Parod i arwain ac arloesi
- Awyddus i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach
Rydyn ni’n annog yn benodol geisiadau gan leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd wedi’u gwthio i’r cyrion yn y sector theatr yng Nghymru.
Sut bydd y rhaglen yn cael ei gwerthuso?
Byddwn yn mesur llwyddiant drwy’r canlynol:
- Adborth ac adlewyrchu gan y cyfranogwyr
- Adroddiadau mentoriaid a lleoliadau
- Gwerthusiad annibynnol
- Arolygon ar ôl y rhaglen
- Tracio cyflawniadau cyn-fyfyrwyr yn yr hirdymor
Bydd hyn yn sicrhau bod y rhaglen yn gadael effaith barhaol — ar gyfer artistiaid ac ar gyfer sector theatr ehangach Cymru.
A fydd rowndiau yn y dyfodol?
Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod — bydd hyn yn amodol ar gyllid.
Oes gennych chi gwestiwn?
Os hoffech chi wybod mwy neu os oes arnoch chi angen cefnogaeth gyda’ch cais e-bostiwch: stiwdio@theatrclwyd.com. Ymunwch â sesiwn Holi ac Ateb ar-lein —
- 1pm ar ddydd Mercher 4ydd Chwefror 2026
- 5pm ar nos Iau 5ed Chwefror 2026
Cofrestrwch drwy e-bostio stiwdio@theatrclwyd.com.
