Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.
Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.
Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.
Bydd y sesiwn hon o Ysgrifennu Gyda… yn cael ei harwain gan Siân Owen .
Daw Siân Owen o Gasnewydd, De Cymru. Mae hi’n awdur ar gyfer y theatr, radio a ffilm. Mae ei gwaith theatr diweddar yn cynnwys The Visit ar gyfer Papertrail / CleanBreak, Under Milk Wood (deunydd ychwanegol) ar gyfer y National Theatre a How to be Brave ar gyfer Dirty Protest (taith yng Nghymru a Gŵyl Fringe Caeredin). Mae hi newydd gael comisiwn i ysgrifennu drama ar gyfer y Welsh National Theatre newydd. Enwebwyd ei drama ar Radio 4, Another Place, am wobr Ffuglen Radio Ewropeaidd Orau’r Flwyddyn yng Ngwobrau Prix Europa 2021. Ar hyn o bryd mae ganddi gomisiwn gyda Chwmni Theatr Box of Tricks ac Attic Theatre ac mae’n ysgrifennu ar gyfer BBC Wales / Radio 4.
Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr Sherman.



