Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.
Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.
Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.
Bydd y sesiwn hon o Write With… yn cael ei harwain gan Matthew Barry.
Mae Matthew yn sgriptiwr ffilmiau o Gymru sy’n byw yn Los Angeles a Llundain. Mae Matthew yn gweithio ar ddwy ochr yr Iwerydd, gyda phrosiectau gwreiddiol ac addasiadau mewn cynhyrchu a datblygu gyda nifer o rwydweithiau a stiwdios, gan gynnwys HBO, y BBC, Fifth Season a Netflix.
Bydd ei gyfres Ddrama sydd i ddod ar y BBC, ‘Old Town Murders‘, sydd wedi’i lleoli yn Ninbych-y-pysgod, yn cael ei darlledu yn 2027. Roedd ei ddrama wreiddiol, ‘The Guest‘ ar gyfer BBC One / Showtime yn un o ddramâu mwyaf y BBC yn 2025. Galwodd y Financial Times y ddrama yn “a gripping gothic tale of rich and poor.”
Enillodd ‘Men Up’, hefyd ar gyfer BBC One, wobr yr Awdur Gorau i Matthew yng Ngwobrau BAFTA Cymru, Gwobr RTS Cymru i’r Ddrama Orau, y Nodwedd Orau yng Ngŵyl Cyfryngau’r Byd Banff, Gwobr Ddrama Ryngwladol C21, a chafodd ei henwebu am Wobr Ddarlledu a Gwobr Drama Sengl Orau RTS.
Yn gyn-aelod o Academi Awduron y BBC, mae gwaith blaenorol Matthew yn cynnwys ‘Industry’, ‘Chilling Adventures of Sabrina’, ‘Death in Paradise’, ‘Banana’ a ‘Stella’.
Dechreuodd Matthew ei yrfa yn ysgrifennu ar gyfer nifer o ddramâu parhaus, gan gynnwys nifer o benodau o ‘Eastenders’, ‘Holby City’ a ‘Casualty’. Fo ysgrifennodd bennod Pen-blwydd ‘Casualty’ yn 30 oed a’r bennod a enillodd Wobr RTS.
Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr y Sherman.





