Loading Events

Ysgrifennu Gyda… Rebecca Hammond

Wed 7 Oct @ 5:00 pm - 8:00 pm

Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.

Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.

Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.

Bydd y sesiwn hon o Ysgrifennu Gyda… yn cael ei harwain gan Rebecca Hammond.


Mae Rebecca, sy’n dod o Gymru ac yn rhannol fyddar, yn Actores, Ysgrifenwraig, Awdur a Chyfarwyddwr Artistig gyda Chippy Lane Productions Ltd. Mae hi’n cael ei chynrychioli gan The Artists Partnership (actio), The Haworth Agency (ysgrifennu dramâu / sgriptio ffilmiau), CAA (ysgrifennu Ffuglen / Awdur) ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi gan Methuen.

Derbyniodd ei drama ‘Hot Chicks’, a gynhyrchwyd gan Theatr y Sherman a Grand Ambition, ★★★★ yn ddiweddar yn The Guardian a The Stage a chafodd ei gosod ymhlith y 50 Sioe orau yn y DU yn 2025 hefyd yn The Stage. Cafodd ei rhoi ar restr hir Gwobr Bruntwood am Ysgrifennu ac ar restr fer Cymrodoriaeth Alpine ar gyfer y Theatr.

Ar hyn o bryd mae Rebecca dan gomisiwn gyda Theatr Clwyd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Chippy Lane Productions, yn datblygu cyfres deledu ac yn gweithio ar ei nofel ffuglen gyntaf ‘Unfinished Things’.

Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr y Sherman.