Loading Events

Campfa’r Actor

Wed 23 Sep @ 2:30 pm - 5:30 pm

Mae Campfeydd Actorion yn lle i actorion o bob cam o brofiad archwilio, chwarae a thyfu.

Mae’r gweithdai hyn yn defnyddio dramâu cyhoeddedig fel sylfaen i blymio i sgiliau newydd, archwilio rhywfaint o destun a gweithio’ch cyhyrau actio mewn amgylchedd cefnogol.

Bydd copïau o’r sgript yn cael eu dosbarthu i’r mynychwyr 48 awr cyn pob sesiwn.

Cyfarwyddwr: Dena Davies

Dyddiad cau cofrestru: Dydd Gwener 18 Medi, 5pm

Testun: TBC


Er bod y sesiynau hyn ar agor i unrhyw un 14+ oed, fe’u cynlluniwyd i gefnogi ymarfer actorion, perfformwyr a phobl greadigol proffesiynol. Os ydych chi mewn hyfforddiant neu addysg ac yn ansicr a fyddai’r sesiwn yn hygyrch, cysylltwch â stiwdio@theatrclwyd.com .