Loading Events

Gym Actorion Caerdydd

Tue 9 Feb @ 6:15 pm - 9:15 pm

Mae Campfeydd Actorion yn lle i actorion o bob cam o brofiad archwilio, chwarae a thyfu.

Mae’r gweithdai hyn yn defnyddio dramâu cyhoeddedig fel sylfaen i blymio i sgiliau newydd, archwilio rhywfaint o destun a gweithio’ch cyhyrau actio mewn amgylchedd cefnogol.

Bydd copïau o’r sgript yn cael eu dosbarthu i’r mynychwyr 48 awr cyn pob sesiwn.

Lleoliad: Caerdydd (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)

Cyfarwyddwr: Alice Eklund

Dyddiad cau cofrestru: Dydd Mercher 3 Chwefror, 5yp

Testun: TBC


Mae Alice Eklund yn Gyfarwyddwr, Dramatwrg ac Ymarferydd Creadigol sydd wedi’i lleoli yng Nghymru ac sy’n arbenigo mewn sioeau cerdd newydd, gwaith actor-gerddor ac ysgrifennu newydd cyfoes, yn rhai dwyieithog beiddgar (Cymraeg / Saesneg) yn aml. Yn artist cwiar ac anabl sy’n siarad Cymraeg, mae hi’n angerddol am ddatblygu gwaith uchelgeisiol, grymus sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng dwyster a chadw pobl wrth galon y cyfan, gan hyrwyddo mynediad, cynrychiolaeth a lleisiau heb eu clywed. Mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar brosesau sy’n rhoi pobl yn gyntaf, gyda ffocws ar straeon sy’n cael eu harwain gan ferched, pobl cwiar a phobl anabl. Mae hi wedi cydweithredu gyda sefydliadau gan gynnwys Theatr Sherman, Theatr Cymru, Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru ac roedd yn Gyswllt Llenyddol cyntaf Theatr Sherman. Mae hi wedi bod yn ddarlithydd gwadd a chyfarwyddwr yn CBCDC a Trinity Laban, ac wedi gwasanaethu ar baneli diwydiant, gan gynnwys BEAM, fel cynrychiolydd o Gymru. Mae hi hefyd wedi beirniadu Gwobr Cân Newydd Stiles + Drewe.

Gwaith fel Cyfarwyddwr: The Last Five Years (Porters Theatre); Ceridwen (Y Cwmni, Urdd Gobaith Cymru); Christmas On Broadway (CBCDC); Anthem (Canolfan Mileniwm Cymru); Red Riding Hood/Yr Hugan Fach Goch, Iphigenia yn Sblot, The Periodicals, Bratiaith, See for Yourself, Sherman TEN (Theatr Sherman)

Gwaith fel Cydgyfarwyddwr: Maryland (Sherman Theatre)

Gwaith fel Cyfarwyddwr Cyswllt: Private Jones, Marshall Pailet (Hugo Six/Thomas Hopkins Productions); Balloon Girl, Hannah McPake (Theatr Sherman); Parti Priodas, Steffan Donnelly (Theatr Cymru); Huw Fyw, Steffan Donnelly (Theatr Cymru / Taith yng Nghymru); Alice: Return to Wonderland, Hannah McPake (Theatr Sherman); Dan Y Wenallt/Under Milk Wood, Emma Baggott (Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru); Es And Flo, Susie McKenna (Canolfan Mileniwm Cymru / The Kiln); Tales Of The Brothers Grimm, Joe Murphy (Theatr Sherman)

Gwaith fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Hansel and/a Gretel, Joe Murphy (Theatr Sherman); A Night In The Clink, Bridget Keehan (Theatr Sherman / Papertrail); HELA, The Awkward Years, Dan Jones (The Other Room)