Mae Campfeydd Actorion yn lle i actorion o bob cam o brofiad archwilio, chwarae a thyfu.
Mae’r gweithdai hyn yn defnyddio dramâu cyhoeddedig fel sylfaen i blymio i sgiliau newydd, archwilio rhywfaint o destun a gweithio’ch cyhyrau actio mewn amgylchedd cefnogol.
Bydd copïau o’r sgript yn cael eu dosbarthu i’r mynychwyr 48 awr cyn pob sesiwn.
Lleoliad: Caerdydd (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)
Cyfarwyddwr: Jenny Davies
Dyddiad cau cofrestru: Dydd Mercher 4 Tachwedd, 5pm
Testun: TBC
Mae Jenny Davies yn gyfarwyddwr, yn grëwr theatr ac yn gynhyrchydd sain o Gymru sydd wedi’i lleoli ym Mryste. Mae hi’n dod yn wreiddiol o’r Fenni. Mae hi’n cyfrannu dull o weithredu cyfannol, sy’n canolbwyntio ar bobl, yn ei hymarfer, wedi’i wreiddio yn y gred y dylai ystafelloedd ymarfer fod yn llefydd ar gyfer twf, ymddiriedaeth a chwilfrydedd chwareus. Mae hi’n chwarae gyda ffurf a phrofiad synhwyraidd gan ganolbwyntio ar straeon croestoriadol, tyner sy’n astudio’r llanast o fod yn ddynol.
Cafodd Jenny ei hyfforddiant ym Mhrifysgol Bryste a gyda’r Bristol Old Vic, lle dyfarnwyd Ysgoloriaeth Celfyddydau Leverhulme, ysgoloriaeth nodedig iawn, iddi yn 2019. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Preswyl gyda’r Tobacco Factory Theatres yn 2018/19 ac mae’n gyswllt gyda’r gydweithfa dan arweiniad artistiaid, Interval. Yn 2026, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr JMK yn y Young Vic.
Fel cyfarwyddwr, mae ei gwaith yn cynnwys; Badgers (TravFest26), Outlier a Waldo’s Circus of Magic and Terror ar gyfer y Bristol Old Vic; Wendy: A Peter Pan Story ar gyfer Theatre Royal Bath; a The Things We Carry ar gyfer Tobacco Factory.
Mae ei gwaith pellach yn cynnwys cyfarwyddwr staff ar Nye ar gyfer y National Theatre (hefyd Canolfan Mileniwm Cymru), Cyfarwyddwr Cyswllt ar The Odyssey Penodau 3 a 5 ar gyfer Public Acts, a Chyfarwyddwr Cyswllt ar Death Drop yn y Criterion.
Mae gwaith sain Jenny wedi ennill cydnabyddiaeth sylweddol iddi: mae hi wedi derbyn Gwobr Sain Charles Parker 2025 am The T-Shirt ar gyfer In the Dark, ac mae hi’n gyfarwyddwr a chynhyrchydd Artan & Jordan gan Florence Espeut-Nickless ar gyfer BBC Radio 4.
Mae hi’n eiriolwr angerddol dros bŵer trawsnewidiol creadigrwydd, ac mae’n parhau i weithio fel arweinydd gweithdai a chydweithredwr gydag artistiaid ledled y DU.


