Loading Events

Casglu gyda Jane McLean

Fri 19 Feb @ 10:00 am - 1:00 pm

Mae Casglu yn ofod misol i ddawnswyr proffesiynol ac ymarferwyr symud i ddod at ei gilydd, archwilio eu crefft a dysgu gan arweinwyr diwydiant sefydledig.

Yn y sesiwn hon, bydd Jane yn cynnig sgorau a strwythurau ar gyfer byrfyfyr. Wedi’n hysbrydoli gan yr elfennau naturiol, byddwn yn haenu eu rhinweddau, eu delweddau a’u dynameg i archwilio dawnsfeydd sy’n gyfoethog o ran posibilrwydd, ffurf a mynegiant. O fewn y sesiwn bydd lle ar gyfer dawnsio unigol, gydag eraill, ac ar gyfer ysgrifennu a darlunio.

Mae gan fyrfyfyrio trwy symudiad a dawns lawer o botensial i’n dysgu amdanom ein hunain, eraill a ffyrdd o fod yn y byd, tra’n gofalu amdanom ein hunain a dilyn ein chwaeth a’n diddordebau ein hunain dros symud. Mae’r sesiwn hon yn cynnig gofod i fod gyda’ch dawnsio eich hun, wedi’ch tywys a’ch cefnogi gan bresenoldeb eraill.

Artist dawns, hwylusydd ac arweinydd creadigol yw Jane McLean. Mae hi’n gweithio gyda byrfyfyr, cyffyrddiad, barddoniaeth a gwneud marciau i feithrin presenoldeb, sylw a chwilfrydedd ac i greu dawnsfeydd gyda phobl o bob oed a gallu. Fel Cyfarwyddwr Creadigol Cheshire Dance mae hi’n hyrwyddo pwysigrwydd gwybodaeth ymgorfforedig ac o werthfawrogi, dathlu ac ehangu mynegiant creadigol pobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gan dynnu ar ugain mlynedd o brofiad, mae hi’n hwyluso sesiynau un-i-un, dosbarthiadau a gweithdai, yn cynnig mentora a chefnogaeth i artistiaid, yn creu perfformiadau ac yn arwain rhaglenni a phrosiectau o wahanol feintiau a chwmpasau, ar hyn o bryd gyda ffocws ar bobl sydd wedi’u labelu fel rhai sydd â profound and multiple learning disabilities a datblygiad artistiaid.

Mae ymholiadau i anatomeg, presenoldeb, sylw i deimladau, defnydd o egni a ffocws yn cefnogi ei holl waith – er bod y ffurfiau y mae’r gwaith yn eu cymryd yn esblygu’n barhaus.

Dysgwch fwy am waith Jane yma.