Mae Lleoliadau Cynhyrchu drwy Stiwdio Clwyd yn darparu cyfleoedd dysgu byr yn y theatr, ar draws ystod eang o ddisgyblaethau ac adrannau yn Theatr Clwyd.
Bydd pob lleoliad dros 3 wythnos ar bwynt mewn cylch cynhyrchu pan fyddwn yn teimlo y bydd yn cael yr effaith fwyaf ystyrlon ar ddatblygiad yr hyfforddai a bod gan y tîm y gallu i gynnal a chefnogi datblygiad yr hyfforddai hwnnw.
Bydd y lleoliadau’n uniongyrchol gysylltiedig â chynyrchiadau Theatr Clwyd.
Disgwyliadau Cyffredinol
Byddai Stiwdio Clwyd yn disgwyl i bobl sy’n ymgymryd â lleoliadau ym maes Cynhyrchu fodloni’r canlynol –
- Bod mewn rhyw fath o hyfforddiant ffurfiol ar hyn o bryd sy’n gysylltiedig â maes y lleoliad,
- Bod wedi dangos ymrwymiad i ddilyn / archwilio gyrfa yn y maes penodol neu fod yn hyfforddi ar hyn o bryd yn y maes penodol hwnnw,
- Bod yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo eu dysgu a’u datblygiad,
- Bod â chysylltiad â Chymru drwy fod wedi’u lleoli yng Nghymru, wedi’u geni yng Nghymru neu’n hyfforddi yng Nghymru ar hyn o bryd,
- Bod dros 18 oed ac yn gymwys yn gyfreithiol i weithio yn y DU,
- Bod ag ymdeimlad cryf o ymholiad a beth maen nhw eisiau ei gael o’r lleoliad yn Theatr Clwyd ar hyn o bryd yn eu datblygiad.
Mae’r lleoliadau gwaith wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr coleg a phrifysgol.
Sylwch mai cyfleoedd dysgu yw’r rhain, nid swyddi, a does dim tâl. Treuliau yw’r unig fath o ad-daliad sydd ar gael. Oherwydd hyn, nid yw’r lleoliadau yma ar gael i unrhyw un y tu allan i hyfforddiant neu addysg. Dylai unrhyw un sy’n gwneud cais nodi pa raglen hyfforddi mae’n ei dilyn. Bydd ceisiadau sydd ddim yn nodi hynny’n cael eu gwrthod.
Os yw’r adran neu’r maes arbenigedd sydd o ddiddordeb i chi yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd am leoliad cynhyrchu, edrychwch ar amlinelliad y rôl ar y dudalen yma.
Bydd gan bob adran wahanol adegau pan fyddant yn derbyn ceisiadau; nid yw’n bosibl derbyn ceisiadau damcaniaethol ar hyn o bryd.
Peidiwch â gwneud cais am fwy nag un lleoliad ar draws gwahanol adrannau ar yr un pryd – canolbwyntiwch ar ble rydych chi’n teimlo y byddai lleoliad yn cael yr effaith fwyaf ar eich datblygiad.
Os nad yw’r adran sydd o ddiddordeb i chi wedi’i rhestru fel un sy’n derbyn ceisiadau, edrychwch yma eto’n fuan, gan fod diweddariadau rheolaidd yn cael eu gwneud i’r dudalen yma.
Bydd disgwyl i bob ymgeisydd llwyddiannus gwblhau ffurflen werthuso ar ôl cwblhau eu lleoliad er mwyn galluogi Theatr Clwyd i barhau i ddysgu a datblygu i wneud y lleoliadau yma mor effeithiol â phosibl.
SYLWCH: Ni fydd y Lleoliadau Cynhyrchu yma ar gael mewn Actio, Ysgrifennu, Cyfarwyddo, Castio.
Yn Theatr Clwyd, rydyn ni’n croesawu croestoriad ac yn annog yn gryf geisiadau gan artistiaid o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, artistiaid sy’n Ddu, yn Asiaidd neu o’r Mwyafrif Byd-eang, neu sy’n uniaethu fel pobl Fyddar, anabl neu niwroamrywiol.
Celf Golygfaol
Lleoliad tair wythnos yn ein Hadran Celf Golygfaol hynod lwyddiannus a fydd yn rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i chi am y technegau a’r sgiliau sy’n cael eu defnyddio wrth i ni greu ein gwaith.
Byddai Timau Celf Golygfaol Theatr Clwyd yn disgwyl i bobl sy’n ymgymryd â lleoliadau yn yr adran yma wneud y canlynol –
- Cyrraedd yn barod i ddysgu, gyda meddwl agored ac ethos gwaith cryf,
- Bod â lefel uchel o gymhelliant a blaengaredd annibynnol,
- Dangos diddordeb brwd mewn perfformiad, dylunio a chynhyrchu theatr,
- Bod â rhywfaint o brofiad a dealltwriaeth glir o weithio mewn gweithdy, yn ddelfrydol fel aelod o dîm,
- Deall gweithio diogel a PPE, sylfaen glir mewn pwysigrwydd diogelwch personol a diogelwch pobl eraill o’ch cwmpas, lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o weithio gyda sylweddau peryglus a gweithio ar uchder,
- Dealltwriaeth a therminoleg sylfaenol o ran golygfeydd theatr, deall pob math o adeiladu a defnyddiau,
- Sylfaen allweddol a sylfaenol mewn paentio ac addurno (Technegau paentio a brwsh sylfaenol, glanhau, gofalu am frwshys ac offer),
- Bod â rhywfaint o brofiad o dynnu lluniau o arsylwadau, gweithio ar raddfa 1:25, tynnu lluniau ffigurol, technegau celf golygfaol fel trompe-l’oeil, a gorffeniad ffug, marmori ac ati,
- Dealltwriaeth o theori lliw gyda sgiliau cymysgu paent sylfaenol a gwybodaeth am baent golygfaol. (Pigmentau sych, gweithio gyda gwydredd, llifynnau, Rosco, gweadau, ac ati),
- Dealltwriaeth a phrofiad o waith gwead 3D, gwaith cerflunio. Cerfio, modelu, ac ati,
- Dealltwriaeth o ddefnyddio CAD wrth ddehongli’r set.
Bydd y Tîm Celf Golygfaol yn ymgymryd â / darparu’r canlynol yn ystod eich lleoliad –
- Cyfle i weithio mewn tîm creu theatr proffesiynol ochr yn ochr â theatr brysur sy’n gweithio. Gweithio o ddydd i ddydd gyda’r tîm celf golygfaol mewn siop baent bwrpasol gyda ffrâm baent.
- Cynorthwyo gyda pharatoi, paentio a gorffen darnau set amrywiol a defnyddiau proffesiynol ar raddfa fawr.
- Cynnig cyfle i arsylwi a dysgu technegau paentio manwl ar amrywiaeth o ddefnyddiau (penodol i sioe). Profiad ymarferol o arferion a thechnegau celf golygfaol fel: Dehongli’r dyluniad a’r bwriad golygfaol, graddio i fyny o’r model, marcio, paratoi a gorchudd cychwynnol, cymysgu paent a gorffen golygfaol.
- Cyfle i brofi / deall y broses gynhyrchu mewn celf golygfaol, o’r cyfarfod model terfynol hyd at agor y sioe. Gan gynnwys profi’r broses o gefnogaeth olygfaol sy’n cael ei rhoi wrth ffitio’r sioe a’r ymarferion technegol.
- Arsylwi o ddydd i ddydd a phrofiad o’r cydweithredu rhwng adeiladu set a chelf golygfaol a’r broses ddeialog gyda dylunydd y set.
- Cyfarwyddyd clir, goruchwyliaeth a PPE angenrheidiol ar gyfer y gwaith sy’n cael ei wneud.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 29 Medi 2026
Cyfnod y lleoliad – 26 Hydref – 13 Tachwedd 2026
Bwrsari ar gael i dalu costau’r lleoliad – £835.00
Dylai’r ceisiadau gynnwys y canlynol;
- Darn mynegi diddordeb byr sy’n egluro sut byddai’r lleoliad yma’n cyd-fynd â’ch gyrfa yn y dyfodol. Peidiwch â phoeni os nad yw’r cynlluniau yma wedi’u llunio’n llawn, mae amlinelliad bras neu syniad yn ddefnyddiol, gan eu bod yn ein helpu ni i ddeall eich dyheadau ar gyfer y dyfodol.
- CV. Efallai yr hoffech gynnwys portffolio hefyd, neu ddolen i wefan neu bortffolio ar-lein os oes gennych chi un. Dylai’r cynnwys yma ymwneud â’r ddisgyblaeth lleoliad rydych chi’n gwneud cais amdani.
Yn eich cais, peidiwch â gor-ddweud eich lefel o brofiad. Os byddwn yn cynnig lleoliad i chi, bydd yn cyd-fynd â beth rydyn ni’n ei wybod am eich profiad a sut gallwn ni helpu i ddatblygu eich sgiliau presennol.
Gallwch hefyd gyflwyno darn mynegi diddordeb fel fideo byr (dim mwy na 3 munud) a hefyd dolenni i’r ffeiliau yr hoffech chi i ni eu gweld fel enghraifft o’ch gwaith.
Rhaid anfon ceisiadau at stiwdio@theatrclwyd.com
Adeiladu Golygfaol
Lleoliad tair wythnos yn ein Hadran Adeiladu Golygfaol a fydd yn rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i chi am y technegau a’r sgiliau sy’n cael eu defnyddio wrth i ni greu ein gwaith.
Byddai tîm Adeiladu Golygfaol Theatr Clwyd yn disgwyl i bobl sy’n ymgymryd â lleoliadau yn yr adran yma wneud y canlynol –
- Cyrraedd yn barod i ddysgu, gyda meddwl agored ac ethos gwaith cryf,
- Bod â lefel uchel o gymhelliant a blaengaredd annibynnol,
- Dangos diddordeb brwd mewn perfformiad, dylunio a chynhyrchu theatr,
- Bod â rhywfaint o brofiad a dealltwriaeth glir o weithio mewn gweithdy, yn ddelfrydol fel aelod o dîm,
- Deall gweithio diogel a PPE, sylfaen glir mewn pwysigrwydd diogelwch personol a diogelwch pobl eraill o’ch cwmpas, lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o weithio gyda sylweddau peryglus a gweithio ar uchder,
- Bod â rhywfaint o sylfaen mewn adeiladu, e.e.; rhywfaint o brofiad blaenorol o waith saer, gwaith metel / ffabrigo / peiriannu neu sgiliau creu / adeiladu eraill sydd wedi’u dysgu naill ai drwy addysg neu gyflogaeth flaenorol,
- Parodrwydd i ddefnyddio amrywiaeth o beiriannau / offer sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin mewn adeiladu fel; llifau pŵer, peiriannau drilio, offer hoelio aer, staplwyr aer, peiriannau naddu ac ati.
Bydd y tîm Adeiladu Golygfaol yn ymgymryd â / darparu’r canlynol yn ystod y lleoliad –
- Cyfle i weithio fel aelod o dîm creu theatr proffesiynol
- Cynorthwyo gyda chynllunio, adeiladu a chyflwyno elfennau set a phrops ar gyfer cynhyrchiad / cynyrchiadau theatr proffesiynol.
- Cyfle i brofi / deall y broses gynhyrchu adeiladu golygfeydd o’r cyfarfod model terfynol hyd at agor y sioe.
- Arsylwi o ddydd i ddydd a phrofiad o’r cydweithredu rhwng adeiladu setiau a chelf golygfaol, ochr yn ochr ag adrannau a rhanddeiliaid eraill.