Loading Events

This event has passed.

Archwilio Arswyd ar y Llwyfan – The Haunting of Hill House

Wed 14 Oct @ 2:30 pm - 6:30 pm

Plymiwch i fyd arswydus a dirgel gyda gweithdy arbennig iawn i Artistiaid Lleol ym mis Hydref.

Bydd y sesiwn yma’n cynnwys tocyn am ddim i weld perfformiad prynhawn o The Haunting of Hill House (Wiltshire Creative) yn Theatr Clwyd, ac wedyn sgwrs bord gron gyda Suzanne Bell a Daniel Lloyd am gymhlethdodau llwyfannu arswyd.

Mewn oes lle mae rhaglenni fel Stranger Things: The First Shadow, Paranormal Activity, The Silence of the Lambs a 2:22 A Ghost Story yn hawlio rhai o’n llwyfannau rhanbarthol mwyaf ni, a’r West End, a’r diddordeb mewn IP arswyd yn cynyddu ymhlith cynulleidfaoedd a chrëwyr fel ei gilydd, mae deall sut yn union mae’r genre yn trosi i brofiad theatr fyw yn bwysicach nag erioed. Byddwch yn barod am bynciau trafod sydd â’u ffocws ar y sgript, y cynhyrchiad a’r perfformiad, yn ogystal â phrocio diriaethol am sut gallwch chi ddefnyddio hyn yn eich gwaith eich hun.

Dim ond 10 lle sydd ar gael – felly archebwch eich lle chi nawr!*

* Gan fod nifer y tocynnau ar gyfer y digwyddiad yma’n gyfyngedig, anfonwch e-bost at stiwdio@theatrclwyd.com os byddwch yn cofrestru ond yn methu dod wedyn.

Ffoto: Pamela Raith, The Haunting of Hill House