Mae Campfeydd Actorion yn lle i actorion o bob cam o brofiad archwilio, chwarae a thyfu.
Ydych chi’n berfformiwr sy’n chwilio am ffyrdd newydd o fireinio eich ysfa greadigol, a datblygu sgiliau newydd er mwyn i chi allu ffynnu mewn lleoliad theatr ddyfeisio?
Ymunwch â ni ar gyfer tair sesiwn Campfa Actorion unigryw gyda’r Crëwr Theatr a’r Cyfarwyddwr, Justin Teddy Cliffe.
Drwy archwilio’r methodolegau mae Justin yn eu defnyddio i arwain y broses o greu ei waith, byddwch yn cael eich cyflwyno i ymarfer perfformio greddfol sy’n defnyddio symudiad a chwarae i ddod o hyd i ffyrdd newydd o adrodd straeon.
Fel actor, mae’n bwysig rhoi amser i ganolbwyntio ar ddatblygu eich creadigrwydd personol, a chynnal cyfres o sgiliau hyblyg sy’n eich galluogi i fod yn gydweithredwr hyderus, yn eich bywyd ac yn eich gwaith. Mae’r gweithdy yma ar gyfer pobl sy’n chwilfrydig ynghylch y posibilrwydd bod mwy nag un ffordd o adrodd stori. Drwy dri gweithdy unigryw sy’n cysylltu â’i gilydd, byddwch yn cael cefnogaeth i deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth wneud rhywbeth newydd a diddorol.
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan waith Emma Rice Company, Talking Birds, Frantic Assembly neu Gecko, mae’r gweithdy yma’n ffordd berffaith o archwilio disgyblaethau perfformio sydd wedi’u siapio gan y cwmnïau yma a’u gwaith.
Does dim rhaid i chi fynychu pob sesiwn gyda Justin, ond bydd perfformwyr yn cael y budd mwyaf drwy fynychu cymaint o’r gyfres â phosibl.
SESIWN 1: Symudiad a Chwarae – Cyflwyniad hwyliog a chyflym i unrhyw un sy’n newydd i’r syniad o ddyfeisio. Proses ystafell ymarfer sy’n llawn dyfeisgarwch, cydweithredu a chwarae.
Ar Gyfer y Sesiwn Yma: Yn bennaf byddwn yn chwarae gemau sy’n cynnwys rhyngweithio â’n gilydd a symud o amgylch y gofod. Gallwch ddewis cymryd rhan neu beidio yn unrhyw beth, a’r nod ydi sicrhau bod pawb yn teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus. Efallai y byddai’n syniad da i chi ddod â photel o ddŵr, llyfr nodiadau a byrbryd. Gwisgwch ddillad cyfforddus y gallwch chi symud ynddyn nhw, a gwisgwch haenau (rhag ofn y byddwch chi’n rhy boeth neu’n rhy oer).
Lleoliad: Theatr Clwyd
Cyfarwyddwr: Justin Teddy Cliffe
Dyddiad cau cofrestru: Dydd Iau 12 Tachwedd, 5pm
Foto: Chris Lloyd
Mae Justin yn grëwr theatr sy’n byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’n creu gwaith perfformio sy’n cyfuno theatr gyfoes â chlownio modern. Gan archwilio profiadau bywyd drwy athroniaeth sy’n cynnwys elfennau o’r abswrd, comedi ac egni bywiog, mae wedi datblygu a pherfformio gwaith yn y DU ac yn rhyngwladol, gyda chwmnïau fel National Theatre Wales, Bristol Old Vic, Battersea Arts Centre, The Birmingham REP a CommonWealth. Yn ystod y pandemig, cynhyrchodd waith perfformio digidol gyda chefnogaeth BBC Arts, ac o ganlyniad cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr Future Theatre Makers yr Evening Standard, am ei waith fel Cyfarwyddwr. Mae Justin yn artist sy’n cael ei gefnogi gan y rhaglen Creative Development ac mae’n cynnig y gweithdai yma’n rhannol diolch i grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae’r gwaith rwy’n ei wneud wedi’i lywio gan fy mhrofiad fy hun o’r byd, wedi’i archwilio trwy gymysgedd o ymchwil, byrbwylltra, diwylliant pop a chwarae. Rwy’n benderfynol o wneud gwaith sy’n teimlo’n fyw iawn ac yn yr ystafell gyda phobl, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng y perfformwyr a’r gynulleidfa. Fy nod yw defnyddio hiwmor a dynoliaeth i anturio i’r anhysbys, yn y gobaith y gallwn ddod o hyd i un peth bach a all newid y byd”

