Loading Events

Gym Actorion: Dechrau Dyfeisio

Thu 26 Nov @ 10:30 am - 1:30 pm

Mae Campfeydd Actorion yn lle i actorion o bob cam o brofiad archwilio, chwarae a thyfu.

Ydych chi’n berfformiwr sy’n chwilio am ffyrdd newydd o fireinio eich ysfa greadigol, a datblygu sgiliau newydd er mwyn i chi allu ffynnu mewn lleoliad theatr ddyfeisio?

Ymunwch â ni ar gyfer tair sesiwn Campfa Actorion unigryw gyda’r Crëwr Theatr a’r Cyfarwyddwr, Justin Teddy Cliffe.

Drwy archwilio’r methodolegau mae Justin yn eu defnyddio i arwain y broses o greu ei waith, byddwch yn cael eich cyflwyno i ymarfer perfformio greddfol sy’n defnyddio symudiad a chwarae i ddod o hyd i ffyrdd newydd o adrodd straeon.

Fel actor, mae’n bwysig rhoi amser i ganolbwyntio ar ddatblygu eich creadigrwydd personol, a chynnal cyfres o sgiliau hyblyg sy’n eich galluogi i fod yn gydweithredwr hyderus, yn eich bywyd ac yn eich gwaith. Mae’r gweithdy yma ar gyfer pobl sy’n chwilfrydig ynghylch y posibilrwydd bod mwy nag un ffordd o adrodd stori. Drwy dri gweithdy unigryw sy’n cysylltu â’i gilydd, byddwch yn cael cefnogaeth i deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth wneud rhywbeth newydd a diddorol.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan waith Emma Rice Company, Talking Birds, Frantic Assembly neu Gecko, mae’r gweithdy yma’n ffordd berffaith o archwilio disgyblaethau perfformio sydd wedi’u siapio gan y cwmnïau yma a’u gwaith.

Does dim rhaid i chi fynychu pob sesiwn gyda Justin, ond bydd perfformwyr yn cael y budd mwyaf drwy fynychu cymaint o’r gyfres â phosibl.

SESIWN 2: Archwilio a Phroses – Sesiwn uwch sy’n gosod yr actor fel dehonglydd, cyfrannydd a chyd-grëwr o fewn y broses greadigol.

Ar Gyfer y Sesiwn Yma: Byddwn yn meddwl ac yn siarad llawer wrth i ni ddyfeisio straeon ac archwilio cysyniadau a syniadau. Wedyn bydd rhywfaint o greadigrwydd corfforol, lle byddwch chi’n gweithio mewn grwpiau bach gyda’r nod o greu ‘rhywbeth’. Efallai y byddai’n syniad da i chi ddod â photel o ddŵr, llyfr nodiadau a byrbryd. Gwisgwch ddillad cyfforddus y gallwch chi symud ynddyn nhw, a gwisgwch haenau (rhag ofn y byddwch chi’n rhy boeth neu’n rhy oer).

Lleoliad: Theatr Clwyd

Cyfarwyddwr: Justin Teddy Cliffe

Dyddiad cau cofrestru: Dydd Iau 19 Tachwedd, 5pm

Foto: Chris Lloyd


Mae Justin yn grëwr theatr sy’n byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’n creu gwaith perfformio sy’n cyfuno theatr gyfoes â chlownio modern. Gan archwilio profiadau bywyd drwy athroniaeth sy’n cynnwys elfennau o’r abswrd, comedi ac egni bywiog, mae wedi datblygu a pherfformio gwaith yn y DU ac yn rhyngwladol, gyda chwmnïau fel National Theatre Wales, Bristol Old Vic, Battersea Arts Centre, The Birmingham REP a CommonWealth. Yn ystod y pandemig, cynhyrchodd waith perfformio digidol gyda chefnogaeth BBC Arts, ac o ganlyniad cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr Future Theatre Makers yr Evening Standard, am ei waith fel Cyfarwyddwr. Mae Justin yn artist sy’n cael ei gefnogi gan y rhaglen Creative Development ac mae’n cynnig y gweithdai yma’n rhannol diolch i grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

“The work I make is informed by my own experience of the world, explored through a mixture of research, impulsivity, pop-culture and play. I’m fixed on making work that feels really alive and in the room with people, focusing on the relationship between the performers and the audience. It’s my aim to use humour and humanity to adventure into the unknown, in the hopes we might find one small thing that can change the world”