Cyfle i dreulio prynhawn gyda Kate Wasserberg, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, ac archwilio manylion cymhleth o ran sut mae Cyfarwyddwr yn arwain ystafell a chwmni.
Mae rôl y Cyfarwyddwr yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r syniad creadigol craidd; mae’n rheolwr, yn drafodwr ac yn arweinydd i’r cwmni o actorion a’r tîm creadigol fel ei gilydd. Gall y ffordd rydych chi’n pennu bwriadau, yn cyfathrebu eich syniadau ac yn gweithio ar y cyd newid y broses a’r perfformiad terfynol yn ddramatig. Os ydych chi’n ddarpar gyfarwyddwr neu’n gyfarwyddwr newydd sydd eisiau datblygu eich gyrfa ac yn awyddus i ychwanegu sgiliau craidd at eich doniau, neu’n gyfarwyddwr profiadol sydd â diddordeb mewn dysgu gan arweinwyr y diwydiant, mae’r sesiwn yma ar eich cyfer chi.
Ffotograff: Mark Carline
Kate yw Cyfarwyddwr Artistig wobrwyedig Theatr Clwyd.
Mae uchafbwyntiau ei chynhyrchiadau’n cynnwys Boys from the Blackstuff (Liverpool Royal Court, National Theatre a’r West End), The Glee Club a Rita, Sue a Bob Too (Stockroom), a The Glass Menagerie, A History of Falling Things, All My Sons, Insignificance a The Rise and Fall of Little Voice (Theatr Clwyd).

