Helpu cyfarwyddwyr sy’n dod i’r amlwg i ddod o hyd i’w traed yn yr ystafell ymarfer
Rydyn ni’n hynod falch o fod yn parhau â’r Cynllun Cyfarwyddwyr Insight i gefnogi crëwyr theatr lleol sydd â diddordeb mewn cyfarwyddo drwy gydol Tymor y Gwanwyn / Haf 2026 yn Theatr Clwyd.
Mae’r Cynllun hwn yn rhoi cyfle i un crëwr theatr lleol, yn gynnar yn ei siwrnai, “arsylwi” ymarferion ar gyfer cynhyrchiad sydd i ddod gan Theatr Clwyd. Mae’r rhai sydd wedi cael eu dewis yn ddiweddar wedi teimlo bod y Cynllun yn ddefnyddiol i’w datblygiad ac wedi adlewyrchu fel hyn –
“Mae’r Cynllun Cyfarwyddwyr Insight wedi bod yn gyfle anhygoel i mi ddeall mwy amdanaf fy hun fel person creadigol a chael cipolwg pellach ar amgylchedd gwaith proffesiynol. Mae cynlluniau fel hyn yn profi y gallwch chi oroesi fel artist o Gymru, gan fyw a gweithio yng Nghymru. Mae’n wirioneddol galonogol teimlo bod pobl eisiau cefnogi eich gyrfa chi.”
Em Dulson, Cyfarwyddwr Insight ar Tick, Tick… BOOM!
“Mae’r Cynllun Cyfarwyddwyr Insight yn gwneud yn union yr hyn mae’n ei ddweud ar y tun – mae’n rhoi cipolwg anhygoel ar y broses o gyfarwyddo. Mae’r cynllun yn caniatáu i rywun, fel fi, sy’n camu i’r ochr gyfarwyddo ar ôl 17 mlynedd o weithio fel actor yn y diwydiant, gael profiad nad ydw i erioed wedi bod yn gyfarwydd ag e o’r blaen, er gwaetha’r gwaith rydw i wedi’i wneud mewn ystafelloedd ymarfer. Mae bod ar ochr arall yr ystafell ac ymgysylltu yn yr holl gyfarfodydd, y sgyrsiau a’r cyngor sy’n cael ei ddarparu ar draws adrannau’r theatr yn gyffredinol, yn teimlo fel man lansio amhrisiadwy i lwybr newydd cyffrous rydw i wedi bod yn breuddwydio am ei ddilyn. Yr eisin ar y gacen yw’r croeso cynnes diamheuol gewch chi wrth weithio yn yr adeilad!”
Danielle Bird, Cyfarwyddwr Insight ar Cinderella
Am Cynllun Cyfarwyddwyr Insight
Mae’r cyfranogwr yn cael ei wahodd i ymarferion bob dydd Llun (neu ddiwrnod arall drwy gytundeb pawb) drwy gydol y cyfnod ymarfer, yr ymarfer technegol a’r sioeau ymlaen llaw. Mae hyn yn ei alluogi i ddilyn y broses o ddod â’r gwaith i’n llwyfannau ni a siwrnai’r cynhyrchiad. Nid yw’n gyfarwyddwr cynorthwyol a dim ond arsylwi’r broses yw’r nod. Mae’r Cynllun hefyd yn rhoi cyfle iddo ddechrau (neu barhau â) deialog gyda’r theatr ac i gael cipolwg ar greu gwaith ar gyfer ein gofodau ni.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwahoddiad i greu “dyddiadur” neu “flog” am ei brofiad – y nod drwy hyn yw cefnogi ei ddysgu a’i ddatblygiad adlewyrchol, i ystyried sut gall gymhwyso ei ddysgu yn weithredol yn ei ymarfer ei hun a gellir ei ddefnyddio fel adnodd i siarad am y cynhyrchiad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael perthynas fentora hefyd gyda Kate Wasserberg, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, a Suzanne Bell, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, a thocynnau i weld y cynhyrchiad. Mae hefyd yn cael deialog gyda’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar y cynhyrchiad.
Pwy all wneud cais?
TMae Cynllun y Cyfarwyddwr Insight yn agored i unrhyw un sy’n byw’n lleol (i’r theatr gynhyrchu*), dros 18 oed, sydd eisiau ffocysu ar gyfarwyddo theatr, ac sydd ar gam cynnar yn eu gyrfa. Ni ddylai fod â chredydau cyfarwyddo proffesiynol – ond efallai ei fod wedi creu gwaith ar lefel ymylol, fel myfyriwr, fel rhan o theatr ieuenctid neu drwy hyfforddiant arall.
Bydd ffi o £1,050 yn cael ei darparu i’r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer Cynllun Cyfarwyddwyr Insight – mae hyn yn cyfateb i £150 y dydd. Nid oes cyllideb i dalu am deithio na chynhaliaeth felly dim ond i artistiaid lleol y mae ar agor.
*Ar gyfer cynyrchiadau Theatr Clwyd, diffiniwn ‘lleol’ fel rhywun sy’n byw yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych neu Wrecsam.
Sut i wneud cais
I wneud cais, cyflwynwch CV neu fywgraffiad cyfarwyddo cyfredol a mynegiant byr o ddiddordeb (dim mwy na 300 gair) sy’n amlinellu pam eich bod â diddordeb mewn arsylwi’r broses ar y cynhyrchiad yma a’r cyfarwyddwr penodol yma a’r cwestiynau sydd gennych chi wrth ddod i’r broses honno.
I wneud cais, cyflwynwch CV neu fywgraffiad cyfarwyddo cyfredol a mynegiant byr o ddiddordeb (dim mwy na 300 gair) sy’n amlinellu pam eich bod â diddordeb mewn arsylwi’r broses ar y cynhyrchiad yma a’r cyfarwyddwr penodol yma a’r cwestiynau sydd gennych chi wrth ddod i’r broses honno.
Rhaid anfon ceisiadau at stiwdio@theatrclwyd.com.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y cyfle yma, cysylltwch â Stiwdio Clwyd ar stiwdio@theatrclwyd.com am ragor o wybodaeth
Cynyrchiadau Sydd I Ddod
Monument gan Rhys Warrington (Theatr y Sherman)
Mae rhywbeth annirnadwy wedi digwydd…
Gyda llygaid y byd yn gwylio, mae trigolion Llanycoed yn ymgynnull yn eu Neuadd Pentref. Mae angen gwneud penderfyniad pwysig: a ddylid adeiladu cofeb – cofeb a allai ddiffinio’r pentref hwn am byth? Wrth i’r cwestiwn gael ei drafod, mae syniadau am genedligrwydd a chymuned yn cael eu profi ac mae tensiynau hirhoedlog yn cyrraedd pwynt berwi. Pan ddaw’r amser, pa ffordd y byddant hwy, ac yr un mor bwysig, chi, yn pleidleisio? Oherwydd gyda dau ddiweddglo amgen, mae eich pleidlais yn cyfrif mewn gwirionedd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 27 Medi 2026, 17:00
Y Cyfarwyddwr;
Francesca Goodridge yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr Sherman, Caerdydd. Roedd hi gynt yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd. Gan weithio’n bennaf gydag ysgrifennu newydd a chlasuron wedi’u hail-ddychmygu, mae hi’n creu theatr amlddisgyblaethol, an-naturiolaidd sy’n ymgorffori cerddoriaeth a symudiad. Yn ddiweddar, cyfarwyddodd Our Town, y cynhyrchiad agoriadol ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru mewn cyd-gynhyrchiad â The Rose Theatre.
Yn 2026, bydd hi’n gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y Royal Court gyda Monument, drama newydd gan Rhys Warrington, a gynhyrchwyd ar y cyd â Theatr Sherman. Cyd-gyfarwyddodd adfywiad Nye gan Tim Price ochr yn ochr â Rufus Norris ar gyfer y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru. Roedd Francesca yn rhan o raglen gyntaf Warner Bros. Discovery Access, mewn partneriaeth â Waterloo Road a’r BBC, gan gefnogi datblygiad cyfarwyddwyr benywaidd ar gyfer y sgrin. Yn 2023, cafodd ei dewis yn Artist Datblygu gyda’r RSC, dan fentoriaeth Robert Icke a’r cwmni theatr rhyngwladol Cheek by Jowl. Hyfforddodd ar Gwrs Cyfarwyddwyr National Theatre ac yn Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl. Hi oedd derbynnydd cyntaf Hyfforddeiaeth Carne 18 mis i Gyfarwyddwyr yng Nghymru, dan fentoriaeth Tamara Harvey, a chyn hynny fel Cyfarwyddwr Hyfforddai yn Theatr The Other Room yng Nghaerdydd.
Cyd-sefydlodd The Far Away Plays, cwmni darllen dramâu ar-lein sy’n hyrwyddo creadigaethau Cymreig a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac sy’n ymroddedig i ailymweld â dramâu Cymreig presennol ac archwilio eu perthnasedd heddiw. Mae Francesca hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd a chyfarwyddwr yn y Royal Conservatoire of Scotland, LIPA, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Mountview, a’r Leeds Conservatoire.


