Mae Campfeydd Actorion yn lle i actorion o bob cam o brofiad archwilio, chwarae a thyfu.
Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Hyfforddai Preswyl Dena Davies, mae’r gweithdai hyn yn defnyddio dramâu cyhoeddedig fel sylfaen i ymchwilio i sgiliau newydd, archwilio rhywfaint o destun a gweithio’ch cyhyrau actio mewn amgylchedd cefnogol.
Bydd copïau o’r sgript yn cael eu dosbarthu i’r mynychwyr 48 awr cyn pob sesiwn.
Dyddiad cau cofrestru: Gwener 13 Mawrth, 5pm
Testun: I’w gadarnhau
Er bod y sesiynau hyn ar agor i unrhyw un 14+ oed, fe’u cynlluniwyd i gefnogi ymarfer actorion, perfformwyr a phobl greadigol proffesiynol. Os ydych chi mewn hyfforddiant neu addysg ac yn ansicr a fyddai’r sesiwn yn hygyrch, cysylltwch â stiwdio@theatrclwyd.com .


