Yn fwyaf addas ar gyfer cyfarwyddwyr, awduron ac actorion, bydd y gweithdy wyneb yn wyneb yma’n eich tywys chi drwy sylfeini dadansoddi sgriptiau a sut i archwilio dadansoddi testun o safbwynt dramatwrgaidd.
Mae llawer o artistiaid yn “gwneud” dramatwrgiaeth heb sylweddoli hynny – dadansoddi testun i dynnu themâu allweddol allan, archwilio’r ymholiadau a gyflwynir, ac adeiladu cysyniad creadigol sy’n helpu cynulleidfaoedd i weithio drwy’r cwestiynau hynny. Ond beth fyddai’n ei olygu i wneud y penderfyniadau dramatwrgaidd hynny o le mwy gwybodus?
Dan arweiniad Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd a’r dramatwrg arobryn, Suzanne Bell, byddwch yn gadael y gweithdy yma gyda thechnegau clir ar gyfer sut i ymdrin â’ch sgript nesaf a pha gwestiynau i’w gofyn i sicrhau bod eich dadansoddiad testun yn drylwyr.
Mae gan Suzanne Bell dros 20 mlynedd o brofiad proffesiynol yn gweithio fel Dramatydd ym maes ysgrifennu newydd a datblygu artistiaid mewn theatrau ac yn cefnogi datblygiad artistiaid ledled y DU ac yn rhyngwladol. Ym mis Ionawr 2025 ymunodd â Theatr Clwyd fel Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, menter newydd i gefnogi datblygiad gwneuthurwyr theatr proffesiynol o Gymru a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Hi oedd y Dramatydd yn y Royal Exchange Theatre lle bu’n goruchwylio Gwobr Bruntwood am Ysgrifennu Dramâu. Mae wedi arwain rhaglenni a gweithdai datblygu artistiaid yn y Liverpool Everyman and Playhouse, Royal Court Theatre, Headlong, Soho Theatre, Live Theatre, Gate Theatre, Birmingham Repertory Theatre, amryw o brifysgolion ac ar gyfer cwmnïau ym Mrasil, Twrci, Canada ac UDA. Suzanne oedd y Rheolwr Llenyddol a’r Dramatydd cyntaf i gael ei phenodi yn y Liverpool Everyman and Playhouse. Yn 2019, hi dderbyniodd Wobr Kenneth Tynan am Ragoriaeth mewn Dramatwrgiaeth. Yn 2020, dyfarnwyd Gwobr Olwen Wymark iddi am Anogwyr ym maes Theatr, a ddyfarnwyd gan Urdd Ysgrifenwyr Prydain Fawr, ar ôl cael ei henwebu gan Winsome Pinnock.




