Ymunwch â Ntombizodwa Nyoni – y dramodydd, y bardd perfformio a’r gyfarwyddwraig rhyngwladol enwog am weithdy mewnweledol sy’n archwilio ysgrifennu ar gyfer perfformio a sut mae dod o hyd i’ch llais creadigol.
Bydd y gweithdy hwn yn ymdrin â thechnegau ysgrifennu – rhythm, cyflymder, iaith, yn ogystal â sut i grefftio’ch geiriau ar gyfer cynnig perfformio mwy cymhellol. Ydych chi’n am i’ch ysgrifennu gael rhagor o effaith? Neu a ydych chi’n ceisio hogi’ch llais ysgrifennu unigol? Ymunwch â ni yn Theatr Clwyd am weithdy ysbrydoledig i’ch helpu i ehangu’ch ymarfer i’r lefel nesaf.
Yn un o Simbabwe, mae Ntombizodwa Nyoni yn ddramodydd, libretydd, sgriptiwr a chyfarwyddwraig. Enillodd ei drama gyntaf, Boi Boi is Dead, Gynllun Dramodwyr Channel 4 yn 2014. Cyrhaeddodd hefyd rownd derfynol Gwobr ryngwladol Susan Smith Blackburn 2014/15. Ers hynny, mae ei dramâu wedi cael eu creu yn y DU, Ffrainc, yr Almaen, UDA, Simbabwe a De Affrica.
Yn 2025, perfformiodd ddau gynhyrchiad am y tro cyntaf: Tears are not Meant to Stay Inside, opera ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Buxton a Liberation yng Ngŵyl Ryngwladol Manceinion gyda’r Royal Exchange.
Cyhoeddir dramâu Ntombizodwa gan Bloomsbury. Mae hi wedi darlithio mewn barddoniaeth a theatr er 2018. Ar hyn o bryd mae hi’n Ddarlithydd mewn Sgriptio ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ac yn ymgynghorydd cysylltiol i Tiata Fahodzi a Fifth Word Theatre.
Mae hi wedi ysgrifennu dwy ddrama radio, Love Again (BBC Radio 3) ac A Khoisan Woman (Drama on 3); a thair ffilm fer: Mahogany, Notes on Being a Lady a’r ffilm wobrwyedig, The Ancestors (BBC Films a BFI Network). Ysgrifennodd Ntombizodwa ar gyfres deilliedig Netflix, Castlevania: Nocturne.
Roedd Ntombizodwa yn gymrawd rhyngwladol ar Raglen Episodig gyntaf Oxbelly yng Ngwlad Groeg. Mae hi’n aelod o BAFTA Connect a dyfarnwyd Cyllid Datblygu Cynnar iddi gan y BFI am ei ffilm nodwedd.




