Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.
Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.
Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.
Bydd y sesiwn hon o Ysgrifennu Gyda… yn cael ei harwain gan Anna Jordan.
Mae Anna yn awdur ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, yn gyfarwyddwr ac yn hwylusydd. Mae ei gwaith ar gyfer y theatr yn cynnwys: Jack and the Beanstalk (Stratford East), Pop Music (Paines Plough / Birmingham Rep / Hull Truck Theatre), Mother Courage and Her Children (Royal Exchange / Headlong), We Anchor In Hope (Bunker Theatre), The Unreturning (Frantic Assembly / Taith Genedlaethol / Stratford East). Enillodd Anna Wobr Bruntwood yn 2013 am ei drama YEN, sydd wedi cael ei chynhyrchu yn The Royal Exchange, y Royal Court ac MCC Efrog Newydd yn ogystal â sawl cynhyrchiad rhyngwladol. Cyrhaeddodd y ddrama restr fer Gwobr Susan Smith Blackburn hefyd. Mae ei gwaith ar gyfer y teledu’n cynnwys: Succession, Killing Eve, Becoming Elizabeth a’r addasiad teledu o One Day. Mae hi newydd orffen ei ffilm nodwedd gyntaf yn ddiweddar. Mae Anna hefyd yn addysgu actio ac ysgrifennu dramâu. Mae hi wedi gweithio fel mentor i bobl ifanc, awduron ac actorion ac wedi addysgu mewn sawl ysgol ddrama. Mae Anna yn cynnal digwyddiadau, gweithdai a Chyfarfodydd Creadigol rheolaidd drwy ei chwmni, Without a Paddle Theatre.
Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr y Sherman.





