Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.
Dyma gyfle i gael rhywfaint o amser strwythuredig i’w neilltuo i’ch ysgrifennu, i ddal eich hun yn atebol i’ch nodau ysgrifennu, i gysylltu gyda’ch cyd-ddramodwyr a chwblhau rhywfaint o ysgrifennu. Mae’r sesiynau yma’n cael eu cynnal gan dimau yn Theatr y Sherman a Stiwdio Clwyd. Ni fydd Awdur Gwadd yn cynnal y sesiwn yma ond bydd amser yn cael ei neilltuo ar gyfer sesiwn holi ac ateb fer gyda’r dramatwrgiaid profiadol o Theatr y Sherman a Stiwdio Clwyd. Ydych chi’n teimlo’n styc ac eisiau syniadau i symud ymlaen? Ydych chi’n chwilio am anogaeth neu gymhelliant ar gyfer yr hyn rydych chi’n gweithio arno? Ydych chi eisiau trafod moment mewn sgript am bersbectif newydd?
Ymunwch â ni am gefnogaeth ac i weithio eich cyhyrau ysgrifennu!
Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.
Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr Sherman.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cefnogi gan…
Davina Moss – Rheolwr Llenyddol yn Theatr Sherman –
Ymunodd Davina â’r Sherman ar ôl pedair blynedd yn gwasanaethu fel Rheolwr Llenyddol yn Hampstead Theatre yn Llundain. Mae ei chyflogaeth flaenorol yn cynnwys Public Theater (Efrog Newydd) a New Works at the Liverpool Everyman and Playhouse. Fel dramatwrg llawrydd, mae ei phrosiectau arwyddocaol yn cynnwys y cynhyrchiad cyntaf o The Merchant of Venice yn ghetto Fenis gyda’r gydweithfa theatr Eidalaidd-Americanaidd Compagnia de’ Colombari, a gwaith gyda Gwobr Bruntwood, Kali Theatre a’r BBC. Mae hi wedi ennill gwobr Olwen Wymark am Anogaeth yn y Theatr, sy’n cael ei dyfarnu gan y Writers’ Guild of Great Britain, ar ôl cael ei henwebu gan Rebecca Jade Hammond.
Lowri Morgan – Cyswllt Llenyddol yn Theatr y Sherman –
Mae Lowri yn awdur a dramatwrg ddwyieithog o Gaernarfon yng Ngogledd Cymru. Cynhyrchwyd drama gyntaf Lowri, Cuddio, gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i pherfformio gan y garfan raddedig. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar yr Opera Sebon teledu Cymraeg Rownd a Rownd ac roedd yn rhan o garfan Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2024-2025. Llynedd, cynhyrchwyd addasiad Lowri o chwedl Ceridwen, gan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a theithiodd ledled Cymru. Ers gweithio yn y Sherman am dair blynedd, mae ymarfer dramatwrgiaeth llawrydd Lowri wedi cefnogi llawer o artistiaid annibynnol gyda phrosiectau hunan-gynhyrchiol, yn ogystal â chwmnïau theatr fel Cwmni’r Fran Wen a Theatr Iolo. Mae Lowri hefyd yn ddisgrifiwr sain hyfforddedig a chyfieithydd.
Suzanne Bell – Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd –
Mae gan Suzanne Bell fwy nag 20 mlynedd o brofiad proffesiynol o weithio fel Dramatwrg ym maes ysgrifennu newydd a datblygu artistiaid mewn theatrau a chefnogi datblygiad artistiaid ledled y DU ac yn rhyngwladol. Ym mis Ionawr 2025, ymunodd â Theatr Clwyd fel Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, menter newydd i gefnogi datblygiad crëwyr theatr proffesiynol Cymreig ac wedi’u lleoli yng Nghymru. Roedd hi’n Ddramatwrg yn Theatr y Royal Exchange lle bu’n goruchwylio Gwobr Bruntwood am Ysgrifennu Dramâu. Mae hi wedi arwain rhaglenni a gweithdai datblygu artistiaid yn y Liverpool Everyman and Playhouse, y Royal Court Theatre, Headlong, Soho Theatre, Live Theatre, Gate Theatre, Birmingham Repertory Theatre, amrywiol brifysgolion ac ar gyfer cwmnïau ym Mrasil, Twrci, Canada ac UDA. Suzanne oedd y Rheolwr Llenyddol a’r Dramatwrg cyntaf i gael ei phenodi yn y Liverpool Everyman and Playhouse. Yn 2019, derbyniodd Wobr Kenneth Tynan am Ragoriaeth mewn Dramayddiaeth. Yn 2020, dyfarnwyd Gwobr Olwen Wymark iddi am Anogaeth yn y Theatr, sy’n cael ei dyfarnu gan y Writers’ Guild of Great Britain, wedi’i henwebu gan Winsome Pinnock.



