Loading Events

Ysgrifennu Gyda… Russell T. Davis

Wed 4 Feb @ 5:00 pm - 8:00 pm

Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.

Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.

Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.

Bydd ein Ysgrifennu Gyda… cyntaf yn cael ei arwain gan yr awdur a’r cynhyrchydd arobryn Russell T. Davis.

Mae gweithiau mwyaf nodedig Russell yn cynnwys Doctor Who, It’s a Sin, Torchwood, A Very English Scandal a Queer as Folk . Ar hyn o bryd mae’n Gysylltydd Creadigol ar gyfer Our Town Theatr Genedlaethol Cymru. Yn 2008, derbyniodd OBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2008 am wasanaethau i ddrama deledu.

Write With… is delivered in partnership with the Sherman Theatre.