Loading Events

Ysgrifennu Gyda… Simon Stephens

Wed 4 Nov @ 5:00 pm - 8:00 pm

Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.

Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.

Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.

Bydd y sesiwn hon o Ysgrifennu Gyda… yn cael ei harwain gan Rebecca Hammond.


Ers mwy na phum mlynedd ar hugain mae gwaith Simon Stephens wedi cael ei gyfieithu a’i gynhyrchu’n eang ledled y byd. Mae wedi ennill llawer o Wobrau gan gynnwys Gwobrau Olivier a Tony am ddramâu newydd. Roedd ei ddrama ‘An Ark’ yn 2026, a lwyfannwyd gan Tim Drum Collective yn y Shed yn Efrog Newydd, yn un o’r dramâu cyntaf erioed i gael eu hysgrifennu ar gyfer Mixed Reality. Perfformiwyd ei addasiad radical o Uncle Vanya, Vanya, gydag Andrew Scott yn serennu, yn y West End yn Llundain ac yn y Lucille Lortel, Efrog Newydd, rhwng Hydref 23 a Gwanwyn 25 a chafodd ei ddangos ar NT Live ac NT Home ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Gwnaed ei addasiad o Blindness gan Jose Saramago yn osodiad golau a sain a gynhyrchwyd yn rhyngwladol yn ystod pandemig Covid-19. Ei ddrama enwocaf yw ei addasiad o nofel eithriadol lwyddiannus Mark Haddon, The Curious Incident of the Dog in the Night-Time. Mae tri deg pump o’i ddramâu gwreiddiol wedi cael eu cynhyrchu’n broffesiynol.

Mae wedi ysgrifennu fersiynau Saesneg newydd o gampweithiau gan Chekhov, Ibsen a Brecht, wedi cydweithio gydag ymarferyddion theatr mwyaf blaenllaw y byd (Patrice Chereau, Ivo Van Hove, Marianne Elliott, Katie Mitchell) ac wedi cynhyrchu gwaith gwreiddiol ledled Ewrop, Asia, Awstralia a’r Americas.

Mae wedi bod yn Gyswllt Artistig yn y Lyric, Hammersmith ac yn Ddramodydd Cyswllt yn y Royal Court Theatre. Mae wedi addysgu gweithdai ysgrifennu dramâu ar bum cyfandir. Mae wedi cyflwyno pedair cyfres o’r Playwright’s Podcast llwyddiannus o’r Royal Court Theatre. Mae’n Athro yn Ysgol Ysgrifennu Prifysgol Fetropolitan Manceinion. Cyhoeddwyd ei lyfr ‘A Working Diary’ gan Methuen Bloomsbury yn 2016.

Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr y Sherman.