Lleoliadau Cynhyrchu

Mae Lleoliadau Cynhyrchu drwy Stiwdio Clwyd yn darparu cyfleoedd dysgu byr yn y theatr, ar draws ystod eang o ddisgyblaethau ac adrannau yn Theatr Clwyd.

Bydd pob lleoliad dros 3 wythnos ar bwynt mewn cylch cynhyrchu pan fyddwn yn teimlo y bydd yn cael yr effaith fwyaf ystyrlon ar ddatblygiad yr hyfforddai a bod gan y tîm y gallu i gynnal a chefnogi datblygiad yr hyfforddai hwnnw.

Bydd y lleoliadau’n uniongyrchol gysylltiedig â chynyrchiadau Theatr Clwyd.

Disgwyliadau Cyffredinol

Byddai Stiwdio Clwyd yn disgwyl i bobl sy’n ymgymryd â lleoliadau ym maes Cynhyrchu fodloni’r canlynol –

  • Bod mewn rhyw fath o hyfforddiant ffurfiol ar hyn o bryd sy’n gysylltiedig â maes y lleoliad,
  • Bod wedi dangos ymrwymiad i ddilyn / archwilio gyrfa yn y maes penodol neu fod yn hyfforddi ar hyn o bryd yn y maes penodol hwnnw,
  • Bod yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo eu dysgu a’u datblygiad,
  • Bod â chysylltiad â Chymru drwy fod wedi’u lleoli yng Nghymru, wedi’u geni yng Nghymru neu’n hyfforddi yng Nghymru ar hyn o bryd,
  • Bod dros 18 oed ac yn gymwys yn gyfreithiol i weithio yn y DU,
  • Bod ag ymdeimlad cryf o ymholiad a beth maen nhw eisiau ei gael o’r lleoliad yn Theatr Clwyd ar hyn o bryd yn eu datblygiad.

Mae’r lleoliadau gwaith wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr coleg a phrifysgol.

Sylwch mai cyfleoedd dysgu yw’r rhain, nid swyddi, a does dim tâl. Treuliau yw’r unig fath o ad-daliad sydd ar gael. Oherwydd hyn, nid yw’r lleoliadau yma ar gael i unrhyw un y tu allan i hyfforddiant neu addysg. Dylai unrhyw un sy’n gwneud cais nodi pa raglen hyfforddi mae’n ei dilyn. Bydd ceisiadau sydd ddim yn nodi hynny’n cael eu gwrthod.

Os yw’r adran neu’r maes arbenigedd sydd o ddiddordeb i chi yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd am leoliad cynhyrchu, edrychwch ar amlinelliad y rôl ar y dudalen yma.

Bydd gan bob adran wahanol adegau pan fyddant yn derbyn ceisiadau; nid yw’n bosibl derbyn ceisiadau damcaniaethol ar hyn o bryd.

Peidiwch â gwneud cais am fwy nag un lleoliad ar draws gwahanol adrannau ar yr un pryd – canolbwyntiwch ar ble rydych chi’n teimlo y byddai lleoliad yn cael yr effaith fwyaf ar eich datblygiad.

Os nad yw’r adran sydd o ddiddordeb i chi wedi’i rhestru fel un sy’n derbyn ceisiadau, edrychwch yma eto’n fuan, gan fod diweddariadau rheolaidd yn cael eu gwneud i’r dudalen yma.

Bydd disgwyl i bob ymgeisydd llwyddiannus gwblhau ffurflen werthuso ar ôl cwblhau eu lleoliad er mwyn galluogi Theatr Clwyd i barhau i ddysgu a datblygu i wneud y lleoliadau yma mor effeithiol â phosibl.

SYLWCH: Ni fydd y Lleoliadau Cynhyrchu yma ar gael mewn Actio, Ysgrifennu, Cyfarwyddo, Castio.

Yn Theatr Clwyd, rydyn ni’n croesawu croestoriad ac yn annog yn gryf geisiadau gan artistiaid o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, artistiaid sy’n Ddu, yn Asiaidd neu o’r Mwyafrif Byd-eang, neu sy’n uniaethu fel pobl Fyddar, anabl neu niwroamrywiol.

There are currently no Production Placements available for application.