Rhaglen flaenllaw ar gyfer creu theatr ar raddfa fawr yng Nghymru.
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno’r criw ar gyfer Rhwygo’r To i Ffwrdd, menter datblygu artistiaid newydd fawr sydd wedi’i chynllunio i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o grëwyr theatr yng Nghymru wrth iddyn nhw ehangu eu harfer a chamu i ofod creadigol mwy.
Mae’r rhaglen yn cynnig amser ymroddedig, mentora pwrpasol a chyfleoedd datblygu proffesiynol lefel uchel i helpu artistiaid i wneud y naid i greu theatr ar raddfa fawr. Dros y chwe mis nesaf byddant yn mynd ar siwrnai gyda ni – fel unigolion ac ar y cyd – i fireinio eu harfer, creu llwybrau creadigol newydd ac ehangu eu gorwelion artistig. Drwy gefnogaeth gan fentor blaenllaw yn y diwydiant, rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhaglen yma’n eu cefnogi i gamu i’r bennod nesaf ar eu siwrneiau artistig.
Mae’r rhaglen yn dechrau gyda chyfnod preswyl dwys yn Theatr Clwyd ym mis Mehefin, yn cynnwys dosbarthiadau meistr a gweithdai dan arweiniad rhai o ymarferyddion theatr mwyaf dylanwadol y DU. Mae’r cyfranwyr yn cynnwys Katie Mitchell, Matthew Xia, Georgia Lowe, Winsome Pinnock, Daniel Schumann, Tom Morton-Smith, Lucy Osbourne yn ogystal â siaradwyr o Factory International, Bristol Old Vic a Theatr y Sherman, gan gyfrannu arbenigedd ar draws cyfarwyddo, cynllunio, ysgrifennu a chynhyrchu.
Byddwn hefyd yn anfon ein Cynhyrchydd, Shane Nickels, i dreulio amser gyda Stage One, i fireinio ei sgiliau a’i wybodaeth am y diwydiant ochr yn ochr â chynhyrchwyr o bob cwr o’r DU. Dywedodd Joseph Smith, Prif Swyddog Gweithredol Stage One: “Mae Stage One yn hynod falch o gael gweithio gyda Stiwdio Clwyd i gryfhau’r gefnogaeth i gynhyrchwyr theatr o Gymru ac wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae datblygu cynhyrchwyr medrus a hyderus yn hanfodol i ddyfodol y diwydiant, ac rydyn ni’n rhannu uchelgais Stiwdio Clwyd i greu cyfleoedd ystyrlon i gynhyrchwyr ddysgu, arbrofi a chreu gyrfaoedd cynaliadwy.”
Drwy gysylltu artistiaid o Gymru â mentoriaid o’r radd flaenaf ac arweinwyr y diwydiant, nod Tearing the Roof Off yw creu llwybr cryfach o dalent greadigol sy’n gallu siapio dyfodol y theatr yng Nghymru a thu hwnt. Mae Tearing the Roof Off yn buddsoddi’n drwm mewn artistiaid o bob cwr o Gymru, gan roi’r adnoddau, yr hyder a’r gefnogaeth iddynt adrodd straeon mwy ar lwyfannau mwy. Rydyn ni’n gwybod y bydd y rhaglen yma’n helpu i greu’r amodau ar gyfer pennod newydd o theatr uchelgeisiol yng Nghymru.
Dewch i gyfarfod y criw a’u mentoriaid

Jenny Davies
Cyfarwyddwr
Mentor: Marianne Elliott
Mae Jenny yn gyfarwyddwr, crëwr theatr a chynhyrchydd sain o Gymru sydd wedi’i lleoli ym Mryste. Daw yn wreiddiol o’r Fenni. Mae hi’n cyfrannu dull ymarfer cyfannol gyda’i ffocws ar bobl, wedi’i wreiddio yn y gred y dylai ystafelloedd ymarfer fod yn llefydd o dwf, ymddiriedaeth a chwilfrydedd chwareus.
Fel cyfarwyddwr, mae ei gwaith yn cynnwys Outlier a Waldo’s Circus of Magic a Terror i’r Bristol Old Vic; Wendy: A Peter Pan Story ar gyfer y Theatre Royal yng Nghaerfaddon; a The Things We Carry ar gyfer Tobacco Factory. Bydd premiere ei chynhyrchiad nesaf, Badgers gan Malaika Kegode, yn y Traverse Theatre fel rhan o TravFest26.

Catherine Dyson
Awdur
Mentor: Sarah Frankcom
Mae Catherine yn awdur a pherfformiwr sy’n byw yng Nghaerdydd. Cynhyrchwyd ei drama The Last Picture, a ddewiswyd yn wreiddiol fel un o 37 Plays Project yr RSC, gan yr York Theatre Royal, yr English Touring Theatre ac An Tobar a Theatr Mull. Ym mis Chwefror eleni, teithiodd o amgylch y DU a derbyniodd adolygiadau 5 seren. Mae ei gwaith ysgrifennu arall diweddar yn cynnwys: The Luminous (RedCape Theatre, taith yn y DU), Peter Pan (Theatr y Sherman), Bitcoin Boi (Theatr Glan yr Afon), On Track (RedCape Theatre, taith yn y DU), Believers (Canolfan Gelfyddydau South Street), Thunder Road (RedCape Theatre, taith yn y DU) a Transporter (Theatr Iolo, taith yn y DU a Kolkata, wedi’i chyfieithu a’i chynhyrchu yn Awstria).

Alice Eklund
Cyfarwyddwr
Mentor: Sarah Frankcom
Mae Alice Eklund yn Gyfarwyddwr, Dramatwrg ac Ymarferydd Creadigol sydd wedi’i lleoli yng Nghymru ac mae’n arbenigo mewn sioeau cerdd newydd, gwaith actor-gerddor ac ysgrifennu cyfoes newydd, yn ddwyieithog (Cymraeg / Saesneg) feiddgar yn aml. Yn artist cwiar ac anabl sy’n siarad Cymraeg, mae hi’n angerddol am ddatblygu gwaith uchelgeisiol, grymus sy’n cynnig cydbwysedd o ran dwyster wrth gadw pobl wrth galon y gwaith, gan hyrwyddo mynediad, cynrychiolaeth a lleisiau heb eu clywed.
Profiad fel Cyfarwyddwr: The Last Five Years (Porters Theatre); Ceridwen (Y Cwmni, Urdd Gobaith Cymru); Christmas On Broadway (CCDBC); Anthem (Canolfan Mileniwm Cymru); Red Riding Hood/Yr Hugan Fach Goch, Iphigenia yn Sblot, The Periodicals, Bratiaith, See for Yourself, Sherman TEN (Theatr y Sherman)

Katie Elin-Salt
Awdur
Mentor: Pippa Hill
Mae Katie yn artist cyswllt cyfredol gyda theatr Pentabus. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr artistig ac yn gydsylfaenydd cwmni theatr Oshi’s World – y cwmni theatr cyntaf o Gymru sy’n gwneud theatr synhwyraidd gyda ac ar gyfer pobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog (PMLD).
Mae ei gwaith ysgrifennu’n cynnwys: Under Milk Wood (Theatr Clwyd/Craidd), Celebrated Virgins (Theatr Clwyd), Sprinkles (Dirty Protest/The Other Room), Hansel a Gretel (Theatr y Sherman), Little Red Riding Hood (Theatr y Sherman), Splinter (Chippy Lane) & Galwad (Sky Arts).

Harry Mould
Awdur
Mentor: Lucy Kirkwood
Mae Harry yn awdur, artist a hwylusydd lles sy’n dod yn wreiddiol o Leeswood, Gogledd Cymru. Comisiynwyd ei ddrama gyntaf, The Brenda Line, gan dymor 2024/25 y Pitlochry Festival Theatre cyn trosglwyddo i Traverse theatre yng Nghaeredin. Enillodd Wobr Alfred Fagon yn 2025. Cyhoeddwyd yn ddiweddar ei fod yn un o chwech sydd wedi derbyn Cynllun Comisiynu cyntaf y Royal Court Jerwood ac ar hyn o bryd mae dan gomisiwn gyda Theatr Clwyd a Traverse Theatre. Mae Harry yn artist cyswllt gyda Sanctuary Queer Arts, yr unig gwmni theatr LGBTQIA+ ymroddedig yn yr Alban, ac mae ar fwrdd y Wonder Fools arobryn.

Shane Nickels
Cynhyrchydd
Mentor: Lucy Atkinson
Mae Shane yn gynhyrchydd creadigol a chynllunydd profiad sy’n gweithio ar draws byd y theatr, ffilm, a chyfryngau cyfranogol, gydag ymarfer wedi’i wreiddio yng Nghymru ac wedi’i ddatblygu drwy fwy na degawd o gydweithredu ag artistiaid, lleoliadau a sefydliadau diwylliannol.
Mae wedi cyflawni gwaith ar draws cynyrchiadau teithiol cenedlaethol, perfformiadau safle-benodol, a phrosiectau cyfranogol ar raddfa fawr, gan gydweithredu â sefydliadau gan gynnwys National Theatre Wales, Pontio, Theatr y Sherman, y Manchester Royal Exchange, a chwmnïau fel yello brick, Dirty Protest, August012, Chippy Lane, a Fio. Mae ei bartneriaethau ehangach yn cwmpasu BAFTA Cymru, Media Cymru, a PDR, gan adlewyrchu arfer sy’n symud rhwng creadigrwydd ar lawr gwlad ac arloesedd yn y sector.

Cory Shipp
Cynllunydd
Mentor: Lizzie Clachan
Mae Cory yn gynllunydd setiau a gwisgoedd sy’n gweithio ar draws pob amrywiaeth o waith perfformio ledled y DU. Hyfforddodd Cory yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Gwaith theatr (fel Cynllunydd) yn cynnwys: The Mikvah Project (Orange Tree Theatre); Hansel & Gretel (Chiswick Playhouse), Cyrano de Bergerac, Easy Virtue (The Watermill Theatre); Mr Burns: A Post-Electric Play, RENT, Return to the Forbidden Planet, Vinegar Tom, Caucasian Chalk Circle, 6 Characters , Let The Right One in, (Mountview Theatre Academy); Another Planet (The Gramophones Theatre Company); Justice in a Day (Theatr Clwyd); Anyone Can Whistle (Southwark Playhouse, Grey Area Theatre); Deffro’r Gwanwyn (Y Cwmni); Glacier (Old Fire Station); The EU Killed My Dad (Jermyn Street Theatre) & The Book of Eternity, (Northern Opera).

Sophie Thomas
Cynllunydd
Mentor: Vicki Mortimer
Mae Sophie yn gynllunydd setiau a gwisgoedd o Gymru sy’n gweithio ar draws perfformiadau byw a ffilm. Wedi’i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, datblygodd ei hymarfer fel Cynllunydd Cynorthwyol Preswyl gyda’r Royal Shakespeare Company cyn cynllunio cynyrchiadau yn y Chichester Festival Theatre, y Young Vic, a’r BBC.
Mae ei gwaith wedi’i wreiddio mewn adrodd straeon, crefft, a sylw manwl i bobl a lle. Ochr yn ochr â’i hymarfer theatrig, mae hi wedi datblygu diddordeb arbennig yn y ffordd y gellir cynnal ac ailddychmygu crefftau sydd mewn perygl, ieithoedd lleiafrifol, ac ecosystemau.

Rhys Warrington
Awdur
Mentor: Helen Edmundson
Mae Rhys yn awdur ac actor o Gymru a hyfforddodd yn y Royal Conservatoire yn yr Alban. Bydd ei ddrama Monument yn cael ei premiere byd mewn cydgynhyrchiad rhwng y Royal Court Theatre a Theatr y Sherman ym mis Rhagfyr 2026 fel rhan o Dymor Pen-blwydd y Royal Court yn 70 oed.
Ymhlith ei waith ysgrifennu arall mae BLUE (Chippy Lane Productions / Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd), Get Ready With Me (Grŵp Awduron Ifanc Pentabus 2023) ac Out Of The Blue (Gŵyl Theatr Calon Cymru Llanymddyfri). Ar hyn o bryd mae gan Rhys gomisiwn gan y Welsh National Theatre, Matsena Productions ac ef yw Awdur Preswyl Jerwood 2026 yn Pentabus.


