Sbarcs

Rhaglen flaenllaw sydd wedi’i chynllunio i danio gwreichion parhaol o greadigrwydd ymhlith artistiaid ledled Cymru.

Mae’r rhaglen bwrpasol hon yn darparu datblygiad wedi’i deilwra ar gyfer crëwyr theatr o Gymru a’r rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Yn y sector theatr cyflym, yn enwedig i weithwyr llawrydd, mae’r pwysau i gyflawni’n gyson yn ddi-baid, a does dim llawer o amser i adlewyrchu, datblygu neu ddyfnhau ymarfer. Mae gofynion goroesi yn lladd egni creadigol yn aml wrth i unigolion fynd ar drywydd swyddi, adeiladu gyrfaoedd, a chwblhau gwaith.

Mae Sbarcs yn ymyriad pwrpasol yn seiliedig ar yr hyn y mae cannoedd o weithwyr llawrydd wedi ei ddweud wrthym ni sydd arnynt ei angen – cyfle i gymryd cam yn ôl o gynhyrchu a chanolbwyntio ar archwilio a thwf. Mae’n ddechrau bach sy’n ein galluogi ni i gymryd amser i siapio pob fersiwn o’r cynllun o amgylch yr artist unigol, gan ddarparu amgylchedd pwrpasol a chefnogol sy’n annog dychymyg, trylwyredd artistig, a chynaliadwyedd.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol a meithrin cymuned theatr gynaliadwy yng Nghymru. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael eu cefnogi i fynd ymlaen a mentora talent newydd arall – gan hyrwyddo cydweithredu, adlewyrchu gan gymheiriaid, a dysgu sy’n pontio’r cenedlaethau.

Unwaith y bydd artist wedi cymryd rhan yn Sbarcs, ni fydd yn gallu cymryd rhan mewn cynllun tebyg drwy Stiwdio Clwyd am o leiaf 3 blynedd.

  • Mae Sbarcs yn ymwneud â datblygiad creadigol, adlewyrchu a mentora – nid cynhyrchu.
  • Mae Sbarcs yn rhoi pwyslais ar broses – mae hwn yn gyfle sydd ddim yn cael ei sbarduno gan ganlyniadau ac sy’n canolbwyntio ar ymholi trylwyr a chefnogaeth gynaliadwy.
  • Mae Sbarcs ar agor i grëwyr theatr o bob disgyblaeth (gan gynnwys meysydd technegol, meysydd dylunio, rheoli llwyfan) sydd â chysylltiad â Chymru.

Ymunwch â ni ar gyfer Sbarcs. Sbarc i’ch creadigrwydd. Tanio eich dychymyg


Eisiau cael gwybod mwy?

Fe allwch chi ymuno â ni am sesiwn holi ac ateb ar-lein am Gynllun Sbarcs naill ai am

1pm ar ddydd Mawrth 3ydd Mawrth
6pm ar nos Iau 5ed Mawrth

E-bostiwch stiwdio@theatrclwyd.com i gofrestru.


Dyddiad Cau Ceisiadau

6pm ar nos Lun 13eg Ebrill 2026

Os yw unrhyw ran o’r wybodaeth yma’n aneglur, neu os oes arnoch chi angen help i’w chael mewn unrhyw fformatau eraill, cysylltwch â stiwdio@theatrclwyd.com a byddwn yn eich cynorthwyo.

Cyflwynir Sbarcs gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


Sbarcs Mini…

… yn galluogi 5 crëwr theatr i ymgymryd â rhaglen gefnogi gyda thâl gyda mentor dros gyfnod o 6 mis ochr yn ochr â rhaglen o ymarfer adlewyrchol gyda Stiwdio Clwyd. Nid yw’n cynnwys cyfnod preswyl yn Theatr Clwyd.

Sbarcs Agored…

… yn cynnig cyfle i 5 crëwr theatr gwblhau cyfnod preswyl yng ngofod Theatr Clwyd wedi’i ailddatblygu, gan gynnig mynediad at arbenigedd mewnol Theatr Clwyd a mentora gan arweinwyr theatr. Ei nod yw gwella twf artistig drwy ddarparu’r gofod a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar grëwyr theatr i lwyddo.

Yn ogystal â hyn, rydym yn gweithio gyda sefydliadau theatr ledled Cymru i gefnogi’r gwaith anhygoel maen nhw eisoes yn ei wneud i ddatblygu artistiaid a chrëwyr theatr. Er bod hon yn elfen gaeedig o Gynllun SPARKS sydd wedi’i chynllunio i wella’r gwaith mae artistiaid yn ei wneud eisoes gyda chwmnïau o Gymru, byddwn yn dathlu’r gwaith hwn a’r artistiaid yma ar draws y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.


CCs

Beth yw Sbarcs?
Mae Sbarcs yn rhaglen flaenllaw i ddatblygu artistiaid sydd wedi’i chynllunio i danio creadigrwydd hirhoedlog ymhlith crëwyr theatr o Gymru a’r rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae’n cynnig gofod, amser a chefnogaeth wedi’i theilwra heb bwysau cynhyrchu, gan alluogi i artistiaid adlewyrchu, archwilio a dyfnhau eu harfer.

Ar gyfer pwy mae Sbarcs?
Mae Sbarcsar agor i grëwyr theatr o bob disgyblaeth – gan gynnwys perfformio, ysgrifennu, cyfarwyddo, dylunio, meysydd technegol a rheoli llwyfan – sydd â chysylltiad â Chymru.

Pam gafodd Sbarcs ei greu?
Dywedodd gweithwyr llawrydd ledled Cymru wrthym ni fod arnynt angen amser i gamu’n ôl o gyflawni cyson a chanolbwyntio ar dwf. Mae Sbarcs yn ymyriad pwrpasol sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu’r angen hwnnw, gan feithrin dychymyg, trylwyredd a chynaliadwyedd mewn sector theatr sy’n datblygu i fod yn gynyddol gyflym.

Ydi Sbarcs yn canolbwyntio ar greu cynhyrchiad?
Nac ydi. Nid yw Sbarcs yn canolbwyntio ar gynhyrchu.
Mae’n gyfle sydd ddim yn cael ei yrru gan ganlyniadau sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad personol ac artistig, ymholi a mentora yn hytrach na gwneud neu gyflwyno gwaith.

Beth yw’r gwahanol gyfleoedd Sbarcs?
Sbarcs Agored: Yn darparu cyfnod preswyl gyda chefnogaeth lawn i 5 crëwr theatr yng ngofod Theatr Clwyd wedi’i ailddatblygu. Mae cyfranogwyr yn cael mynediad i’r tîm mewnol ac yn derbyn mentora gan arweinwyr theatr.

Sbarcs Mini: Yn cefnogi 5 crëwr theatr drwy raglen fentora chwe mis gyda thâl ynghyd â sesiynau ymarfer adlewyrchol gyda Stiwdio Clwyd. Nid yw’r llwybr hwn yn cynnwys cyfnod preswyl.

Ydw i’n gallu gwneud cais am Sbarcs Agored a Sbarcs Mini?
Ydych – fe allwch chi wneud cais am y naill gynllun neu’r llall os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Fodd bynnag, gall cael eich dewis i un rhaglen effeithio ar asesiad ar gyfer y llall yn dibynnu ar y galw.

Faint o artistiaid sy’n cael eu dewis?

  • 5 artist ar gyfer Sbarcs Agored
  • 5 artist ar gyfer Sbarcs Mini

Bydd grŵp ehangach yn cael ei gefnogi hefyd drwy fentora, hyfforddiant a chyfleoedd dysgu cyfoedion.

Oes posib i mi gymryd rhan yn Sbarcs fwy nag unwaith?
Unwaith y bydd artist wedi cymryd rhan mewn unrhyw raglen Sbarcs, ni all gymryd rhan eto (nac mewn cynllun tebyg gan Stiwdio Clwyd) am o leiaf 3 blynedd. Mae hyn yn ein helpu ni i gyrraedd amrywiaeth ehangach o artistiaid.

Pa gefnogaeth fyddaf i’n ei chael?
Yn dibynnu ar y cynllun, gall y gefnogaeth gynnwys y canlynol:

  • Amser a gofod ar gyfer ymholi creadigol
  • Mentora un i un gan ymarferyddion yn y DU / rhyngwladol
  • Mynediad at arbenigedd mewnol a chyfleusterau Theatr Clwyd
  • Sesiynau dysgu cyfoedion ac ymarfer adlewyrchol
  • Hyfforddiant mentora i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol o artistiaid
  • Cyfleoedd datblygu gyda thâl

Beth yw amcanion a nodau Sbarcs?
Amcanion Sbarcs yw:

  • Darparu amser, gofod a chefnogaeth artistig wedi’i theilwra
  • Tanio a chynnal datblygiad creadigol yng Nghymru
  • Cryfhau gwydnwch a seilwaith byd y theatr yng Nghymru
  • Meithrin mentora, arweinyddiaeth a dysgu sy’n pontio’r cenedlaethau
  • Cefnogi rhagoriaeth, arloesedd ac ymholi artistig dwfn
  • Meithrin sgiliau artistiaid i fentora pobl eraill
  • Mae’r amcanion a’r nodau llawn wedi’u rhestru ym mhecynnau’r rhaglen.

Oes angen i mi gynhyrchu unrhyw beth erbyn diwedd y rhaglen?
Nac oes. Mae Sbarcs yn rhoi mwy o bwyslais ar archwilio arfer na chynnyrch pendant. Nid oes disgwyl i chi gyflwyno na chreu gwaith gorffenedig.

Sut mae gwneud cais?
Fe welwch chi hefyd ddolenni i’r pecynnau rhaglen manwl ar gyfer pob elfen Sbarcs.

Oes posib i mi gael rhagor o wybodaeth cyn gwneud cais?
Oes! Ymunwch â’n sesiwn Holi ac Ateb ar-lein ni am gynllun Sbarcs am:

  • 1pm ar ddydd Mawrth 3ydd Mawrth
  • 6pm ar nos Iau 5ed Mawrth

E-bostiwch stiwdio@theatrclwyd.com i gofrestru.