Te Angladd – Cyfarwyddwr Insight

‘Da chi’n gwybod bod chi’n mynd yn hen pan ‘da chi’n cael eich gwahodd i lai a llai o briodasau ac yn dechrau hel angladdau…

Ar ôl blwyddyn o gyfleoedd coll a thecsts ganol nos, mae llwybrau Lowri ac Idris yn croesi unwaith eto… mewn angladd. Tra bod Lowri’n rhygnu byw ar y fferm ym Mhen Llŷn, mae Idris yn suddo i’w unigedd yn ei dŷ teras tamp yng Nghaerdydd. Ond ar ôl marwolaeth annisgwyl, mae’n rhaid i’r ddau ohonyn nhw wynebu gwirioneddau mawr am eu dyfodol a gofyn y cwestiwn, “be ‘dw i isio go iawn?” Emynau, teyrngedau a chladdu brechdanau, mae Te Angladd gan Gruffudd Owen yn ddrama gomedi newydd am gariad, galar a gwirioneddau cudd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Parti Priodas, mae Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies yn dychwelyd fel Lowri, Idris a’r holl gymeriadau eraill, gyda’r cyfarwyddwr Rhian Blythe wrth y llyw.


Am y rôl

Sefydliad cynhyrchu: Theatr Cymru

Lleoliad: Caernarfon & Caerdydd

Ffi: £1,050.00

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2026, 17:00

Mae’r cyfle hwn ar gyfer cyfarwyddwr ar ddechrau ei yrfa sy’n creu gwaith yn y Gymraeg ac sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Er bod y cynhyrchiad yn agor yn Galeri yng Nghaernarfon, bydd y broses ymarfer yn digwydd yng Nghaerdydd. Bydd costau teithio a chynhaliaeth rhesymol yn cael eu talu er mwyn galluogi’r cyfarwyddwr i fynychu agoriad y cynhyrchiad yng Nghaernarfon ar y dyddiadau a restrir – i’w drafod gyda Stiwdio Clwyd.

Am y Cyfarwyddwr

Rhian Blythe yw Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru. Mae gwaith diweddar fel cyfarwyddwr i Theatr Cymru yn cynnwys Wes Wes!, Wrecslam!, Byth Bythoedd Amen, Ha/Ha, Swyn, Rwan/Nawr ac Enfys. Yn haf 2026, cyfarwyddodd Rhian y sioe gerdd Caloni Gwmni Theatr yr Urdd a Theatr Cymru, ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru.

Yn 2025, roedd yn Gyfarwyddwr Cyswllt ar Romeo a Juliet (taith Cymru a pherfformiadau Shakespeare’s Globe) ac mae hefyd wedi cyfarwyddo Croendena(Frân Wen), a Helo?! a Noson yn y Glwys(Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru).

Llinell amser

Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
W/d 25 Ionawr 2027Wythnos Ymarfer Un
W/d 1 Chwefror 2027Wythnos Ymarfer Dau
W/d 8 Chwefror 2027Wythnos Ymarfer Tair
Dydd Llun 22 Chwefror 2027Mynychu’r rhediad technegol a gwisg*
Dydd Mawrth 23 Chwefror 2027Mynychu perfformiad rhagolwg*
Dydd Mercher 24 Chwefror 2027Mynychu nodiadau a pherfformiad rhagolwg*
Dydd Iau 25 Chwefror 2027Noson y Wasg yn Galeri*

* Bydd y gweithgaredd hwn yn digwydd yn Galeri yng Nghaernarfon. Bydd costau teithio a llety rhesymol o Gaerdydd yn cael eu talu.

Sut i ymgeisio

I ymgeisio, cyflwynwch CV cyfarwyddo neu fywgraffiad cyfredol a datganiad o ddiddordeb byr yn yr iaith Gymraeg (dim mwy na 300 gair) sy’n amlinellu pam mae gennych ddiddordeb mewn arsylwi’r broses ar y cynhyrchiad hwn a’r cyfarwyddwr penodol hwn a’r cwestiynau sydd gennych wrth ddod i’r broses honno.

Dylid anfon ceisiadau i stiwdio@theatrclwyd.com.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyfle hwn, cysylltwch â stiwdio@theatrclwyd.com am ragor o wybodaeth.