Arweinwyr celfyddydau Cymru, yng nghanol y llwyfan.
Rydym wedi lansio Ysbrydoli, cyfres we newydd gymhellol o sgyrsiau manwl gyda rhai o’r ffigurau mwyaf dylanwadol sy’n gweithio ym myd y theatr a’r celfyddydau perfformio heddiw.
Yn cael ei ffilmio ar Zoom a’i chyflwyno gan y newyddiadurwraig lwyddiannus gyda’r BBC, Sian Lloyd, mae Ysbrydoli yn dod â chwe llais rhyfeddol at ei gilydd i adlewyrchu ar arweinyddiaeth, creadigrwydd a gwydnwch. Mae pob pennod yn para am oddeutu awr, gan gynnig ffenest brin, heb ffilter i gynulleidfaoedd i feddyliau’r bobl sy’n gyrru byd y theatr yng Nghymru ac ym Mhrydain yn ei flaen.
“Fe sefydlwyd Ysbrydoli oherwydd dyhead i ddathlu a rhannu doethineb y bobl nodedig sy’n siapio ein diwydiant ni. Mae’r rhain yn sgyrsiau gonest, hael a dynol iawn.” – Suzanne Bell, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd
Cwrdd â’r unigolion a gyfwelwyd

Pennod Un – Daf James
Mae Daf James yn artist cwiar amlddisgyblaethol: dramodydd, awdur teledu, cyfansoddwr a pherfformiwr arobryn sy’n gweithio ym myd y theatr, radio, teledu a ffilm yn Saesneg ac yn y Gymraeg.

Pennod Dau – Rakie Ayola
I ddod dydd Mercher 19 Awst 2026.
Mae Rakie Ayola yn gynhyrchydd ac yn actores, yn enillydd Gwobr Actores Gefnogol Orau BAFTA, Gwobr Actores Orau BAFTA Cymru a Gwobr Siân Phillips BAFTA Cymru, sy’n wobr nodedig tu hwnt. Mae ei gwaith llwyfan yn cynnwys cynyrchiadau yn y West End o Harry Potter and the Cursed Child a The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, ochr yn ochr â gyrfa deledu helaeth gan gynnwys Kaos, The Pact, Shetland a Doctor Who.

Pennod Tri – Daniel Evans
I ddod dydd Mercher 16 Medi 2026.
Mae Daniel Evans yn actor a chyfarwyddwr o Gymru sydd wedi ennill Gwobr Olivier ac sydd ar hyn o bryd yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company. Cyn ei rôl bresennol, gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Artistig y Chichester Festival Theatre a Theatrau Sheffield.

Pennod Pedwar – Jon Gilchrist MBE
I ddod dydd Mercher 21 Hydref 2026.
Jon Gilchrist MBE yw Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Swyddog Gweithredol y Birmingham Hippodrome. Cyn y swydd hon, mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol HOME ym Manceinion a’r Bush Theatre yn Llundain.

Pennod Pump – Kaite O’Reilly FRSL
I ddod dydd Mercher 18 Tachwedd 2026.
Mae Kaite O’Reilly FRSL yn fardd, dramodydd a dramaturg arobryn sy’n byw yng Nghymru ac sy’n ysgrifennu ar gyfer y radio, y sgrin a pherfformiadau byw, ac mae’n adnabyddus yn rhyngwladol fel artist ac ymgyrchydd anabledd.

Pennod Chwech – Adele Thomas
I ddod dydd Mercher 16 Rhagfyr 2026.
Mae Adele Thomas yn gyfarwyddwr opera a theatr o Gymru, yn hanu o Bort Talbot. Mae ei gwaith yn y byd opera’n cynnwys cynyrchiadau yn y Tŷ Opera Brenhinol, Glyndebourne ac Opernhaus Zurich, ac mae bellach yn gwasanaethu fel Cyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Gweithredol Opera Cenedlaethol Cymru.


