
Ydi Stiwdio Clwyd yn ofod?
Na – nid yw’n ofod ffisegol. Mae’r tîm yn Stiwdio Clwyd yn defnyddio gofodau ac adnoddau amrywiol yn Theatr Clwyd (a thu hwnt) i gefnogi artistiaid a chrëwyr theatr. Byddwn yn creu cyfleoedd pwrpasol sy’n rhoi’r hyn sydd ei angen ar artistiaid i wneud eu gwaith gyda ni.
Ydych chi’n meddwl am raglennu gwaith teithiol?
Ni fydd Stiwdio Clwyd yn rhaglennu perfformiadau. Am ymholiadau rhaglennu ar gyfer unrhyw un o ofodau Theatr Clwyd, cysylltwch â programming@theatrclwyd.com.
Ydych chi’n cynnig interniaethau?
Dim ar hyn o bryd, ond cadwch lygad ar y dudalen Cyfleoedd am ddiweddariadau yn y dyfodol. Sylwch na fydd Stiwdio Clwyd yn cynnig interniaethau di-dâl, heblaw am i unigolion sydd mewn hyfforddiant ffurfiol neu addysg uwch. Os ydych chi’n fyfyriwr Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11 sy’n chwilio am Brofiad Gwaith yn Theatr Clwyd, ewch yma, ac os ydych chi mewn hyfforddiant mewn cynhyrchu ar hyn o bryd, chwiliwch am ein cyfleoedd Lleoliadau Cynhyrchu.
Sut ydych chi’n diffinio “artist” a “chrëwr theatr”?
Rydyn ni’n diffinio’r rhain fel unrhyw un sy’n ymwneud â chreu theatr. Gallai hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) technegwyr, cynllunwyr, rheolwyr llwyfan, cynhyrchwyr, actorion, cyfarwyddwyr, awduron a mwy. Os nad ydych chi’n siŵr a all Stiwdio Clwyd gefnogi eich ymarfer, anfonwch e-bost at stiwdio@theatrclwyd.com i drafod gyda’r tîm.
Oes angen i fy ngwaith i ffitio yn Theatr Clwyd er mwyn bod yn briodol ar gyfer Stiwdio Clwyd?
Nac oes! Nid yw Stiwdio Clwyd yn biblinell greadigol ar gyfer unrhyw theatr, sy’n golygu ein bod ni’n gallu cefnogi artistiaid sydd ddim yn creu gwaith a fyddai’n ffitio rhaglenni confensiynol llwyfannau Theatr Clwyd. Byddem yn eich annog chi i wneud cais am gyfleoedd o ddiddordeb hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo bod dyfodol eich prosiect yn Theatr Clwyd.
Sut ydych chi’n diffinio “lleol” mewn cyfleoedd sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer y Rhwydwaith Artistiaid Lleol?
Rydyn ni’n diffinio “lleol” fel yr artistiaid hynny sydd wedi’u lleoli naill ai yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych neu Wrecsam.
Oes angen i mi fod wedi fy lleoli yng Ngogledd Cymru?
Efallai y byddwn ni’n gallu helpu artistiaid i gael mynediad at ofod ymarfer neu ddatblygu, ond nid yw hyn yn warant. Os hoffech chi holi am ofod, cysylltwch â stiwdio@theatrclwyd.com gydag amlinelliad o’ch prosiect, maint y gofod y byddai arnoch ei angen, a’r dyddiadau pryd byddai arnoch ei angen. Fel arall, ystyriwch a allai unrhyw un o raglenni Stiwdio Clwyd ddiwallu eich anghenion chi, oherwydd gallai gwneud cais yno fod yn fwy addas.
Nac oes, mae mwyafrif gwaith Stiwdio Clwyd ar agor i artistiaid o bob cwr o Gymru. Mae gennym ni Rwydwaith Artistiaid Lleol pwrpasol ar gyfer pawb sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, ond byddwn yn nodi os yw unrhyw ddigwyddiadau neu gyfleoedd ar gael i artistiaid lleol yn unig.
Allwch chi roi mynediad i mi i ofod am ddim?
Stiwdio Clwyd is part of Theatr Clwyd.
Raikes Lane, Mold, CH7 6NA
We use cookies to improve your experience on our site. By using our site, you consent to cookies.
Manage your cookie preferences below:
Essential cookies enable basic functions and are necessary for the proper function of the website.
These cookies are needed for adding comments on this website.