Loading Events

Casglu gyda Angharad Jones-Young

Fri 29 May @ 1:00 pm - 4:00 pm

Mae Casglu yn ofod misol i ddawnswyr proffesiynol ac ymarferwyr symud i ddod at ei gilydd, archwilio eu crefft a dysgu gan arweinwyr diwydiant sefydledig.

Bydd hanner cyntaf y gweithdy’n cynnwys cynhesu a gwaith cryfder a chyflyru cyn symud i ddilyniannau a chymalau teithiol. Bydd yr arddull symud yn gymysgedd o waith llawr, deunydd sefyll sy’n canolbwyntio ar droi, troeolli a chwyrlio, yn ogystal â rhai elfennau o Afro-fusion. Bydd ail hanner y sesiwn yn canolbwyntio ar waith partner – bydd hyn yn gymysgedd o dasgau gosod a hefyd deuawdau byrfyfyrio. Mae’r sesiwn yn addas i unrhyw un sy’n hoffi symud ac sy’n barod i roi cynnig ar rywbeth hwyliog a newydd.


Mae Angharad Jones-Young yn ddawnswraig gyfoes o Gymru, a fagwyd yn Eryri, Gogledd Cymru. Hyfforddodd yn y Northern School of Contemporary Dance. Ar ôl graddio, mae Angharad wedi bod yn teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ddawnsio gyda chwmnïau gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ACE dance & music, Autin Dance Theatre, Ransack Dance Company a Keneish Dance. Ochr yn ochr â pherfformio, mae gan Angharad angerdd cryf dros addysgu dawns. Mae hi’n ddarlithydd dawns gyfoes yn y Performers College. Mae ei phrofiadau addysgu eraill yn cynnwys y British Ballet Organisation, Elmhurst Ballet School, Black Country Dance Hub, FABRIC, Grace & Poise Academy, Brum Pro Class a Dance Collective CIC.