Mae ofod misol i ddawnswyr proffesiynol ac ymarferwyr symud i ddod at ei gilydd, archwilio eu crefft a dysgu gan arweinwyr diwydiant sefydledig.
Mae Casglu yn rhaglen fisol o weithdai ar gyfer artistiaid dawns a symudiad sy’n gweithio ym maes dawns, coreograffi, cyfeiriad symudiad ac ymarfer corfforol i ddod at ei gilydd, archwilio eu crefft, dysgu sgiliau newydd a chreu cymuned. Mae’r gweithdai hyn yn cael eu harwain gan grŵp amrywiol o artistiaid gwadd, gan gynnig cipolwg ar eu hymarfer unigol. Mae’r sesiynau hyn yn lle i chi danio eich creadigrwydd eich hun a meithrin eich ymarfer ochr yn ochr ag artistiaid tebyg i chi.
Bwrsari Casglu
Fel rhan o’n rhaglen o sesiynau rhwng mis Medi 2026 a mis Mawrth 2027, rydyn ni’n agor 4 lle bwrsari i ddawnswyr. Mae’r bwrsari yma’n talu am eu hamser i fynychu 3 o’n sesiynau Casglu, ond rydyn ni’n annog presenoldeb pellach yn y rhaglen ehangach lle bo modd. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n derbyn y bwrsari weithio gyda thîm Stiwdio Clwyd hefyd i gynnal gwerthusiad llawn o’u cyfranogiad yn y rhaglen.
Ffi bwrsari sydd ar gael – £550
Dylech fod yn ymwybodol bod y ffi yma wedi cael ei chyfrif i dalu am amser yr artist i fynychu 3 sesiwn (tua 3 awr yr un), amser gwerthuso ac unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â mynychu. Mae Stiwdio Clwyd yn cydnabod bod rhai artistiaid yn wynebu costau ychwanegol (mynediad, gofal plant, ac ati…) er mwyn mynychu a byddant yn gweithio gyda’r artistiaid bwrsari i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi â’r costau.
Bydd sesiynau Casglu yn parhau i fod ar agor ar gyfer ymgeiswyr aflwyddiannus, neu ymgeiswyr sy’n dewis peidio â gwneud cais, i fynychu heb dâl.
Meini prawf hanfodol i wneud cais:
- Ymrwymiad i ymarfer dawns a symudiad yng Ngogledd Cymru
- Chwilfrydedd i archwilio a datblygu eu hymarfer yn weithredol drwy ymgysylltu ag amrywiaeth o ymarferyddion
- Profiad clir mewn cyfarwyddo dawns a / neu symudiad
- Cysylltiad cryf – naill ai drwy fyw, gweithio neu hyfforddi yng Ngogledd Cymru
- Ymrwymiad i feithrin cymuned ehangach o ymarferyddion symudiad ledled Cymru
Sut i wneud cais:
I wneud cais am y cyfle yma, anfonwch y canlynol atom ni –
- Bywgraffiad neu CV cyfredol ar gyfer eich gwaith mewn cyfarwyddo / ymarfer dawns neu symudiad.
- (Os yw ar gael) Dolen i’ch gwefan neu bortffolio o waith
- Datganiad o gais neu fynegi diddordeb (uchafswm o 500 gair neu 5 munud o fideo) yn mynd i’r afael â’r meini prawf hanfodol uchod a sut bydd mynychu Casglu yn cefnogi datblygiad eich ymarfer. Dylech hefyd nodi dau o’r ymarferyddion sy’n arwain sesiynau Casglu ac amlinellu eu dylanwad ar eich ymarfer neu’r hyn rydych chi’n gobeithio ei ddysgu o nhw.
Gallwn dderbyn ceisiadau ysgrifenedig neu fideo. Gallwn hefyd dderbyn ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Iaith Arwyddion Prydain.
E-bost – stiwdio@theatrclwyd.com
Dyddiad cau – Dydd Gwener 18 Medi 2026, 12:00
Gyda diolch i Abderrahim Crickmay Charitable Settlement am eu cyllid a’u cefnogaeth.



