Loading Events

Emily White – Creu Cymeriadau Unigryw a Chyffrous

Tue 6 Oct @ 5:00 pm - 8:00 pm

Ymunwch â’r dramodydd arobryn Emily White, mewn cydweithrediad â Stiwdio Clwyd, Theatr y Sherman, Chippy Lane Productions a’r Women’s Prize for Playwriting, wrth iddi eich tywys trwy gyfres o ymarferion, awgrymiadau a heriau i’ch helpu i greu cymeriadau nodedig a fydd yn dod â’ch drama yn fyw.

Enillodd drama Emily Atlantis y George Devine Award ac fe’i cynhyrchwyd yn ddiweddar i ganmoliaeth feirniadol yn Theatr Clwyd a Chichester Festival Theatre. Cafodd drama Emily, The Children of Glyndŵr, ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y 2025 Women’s Prize for Playwriting a chymerodd ran yn y rhaglen Future Light gyntaf i gefnogi ei datblygiad.

Yn dilyn y gweithdy, bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am y Wobr cyn i’r cyfnod cyflwyno agor ym mis Tachwedd!

I gofrestru, e-bostiwch stiwdio@theatrclwyd.com