Loading Events

Ysgrifennu Gyda… Leila Navabi

Wed 3 Jun @ 5:00 pm - 8:00 pm

Mae Ysgrifennu Gyda… yn sesiwn waith gymunedol ar-lein i feithrin creadigrwydd, neilltuo amser i fod yn ddramodydd a dal eich hun yn atebol i’ch nodau fel dramodydd proffesiynol.

Gallwch ymuno â ni gartref, ar y trên, mewn caffi – unrhyw le ble gallwch chi neilltuo gofod ac amser i ysgrifennu.

Nid yw’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu gwaith, derbyn adborth ar eich gwaith na chyflwyno syniadau i Theatr y Sherman na Theatr Clwyd – mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y broses o ysgrifennu, creu cymuned a dod o hyd i gefnogaeth gyda dramodwyr eraill.

Bydd y sesiwn hon o Write With… yn cael ei harwain gan Leila Navabi.


Mae Leila yn awdur, cyfansoddwr a digrifwr 26 oed o Dde Cymru. Yn 2023, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y Fringe yng Nghaeredin gyda rhediad wedi gwerthu pob tocyn o’i hawr gomedi gerddorol ‘Composition‘. Cafodd glod gan y beirniaid – ‘an eye-catching introduction to a comic of promise’ (Guardian). Wedyn trosglwyddodd y sioe i Soho Theatre, lle cafodd ei galw’n ‘a debut full of charm, originality and promise’ (The Telegraph).

Yn cael ei disgrifio fel ‘the actual future of comedy’ (LMAOnaise), mae ei gwaith stand-yp ar deledu a radio yn cynnwys Comedy Central Live (Comedy Central), Gwobrau Comedi Newydd y BBC (BBC Three), Live at Aberystwyth Pier (BBC One Wales), Crush Hour (Audible), Loose Ends (BBC Radio 4), Stand-up Sesh (BBC One Wales), a The Leak (BBC Radio Wales). Mae hi’n ddwyieithog, gyda’i gwaith yn y Gymraeg yn cynnwys Ffyrnig (S4C) a Ni y Nawdegau (BBC Cymru). Mae hi wedi darparu cefnogaeth ar daith i Jessica Fostekew, Laura Smyth a Nish Kumar.

Darn diweddaraf Leila yw comedi gerddorol ‘Relay’, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2025 yn y Pleasance in Courtyard. Roedd y cynhyrchiad yn rhan o Bartneriaeth Genedlaethol Pleasance Caeredin, a gyflwynwyd mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman. Ar hyn o bryd mae hi’n teithio ledled y DU.

Cyflwynir Ysgrifennu Gyda… mewn partneriaeth â Theatr y Sherman.