Mentoreion – Camu i Mewn

External Opportunity

Mae Camu i Mewn yn rhaglen hyfforddi a mentora sydd wedi profi’n llwyddiannus a chaiff ei chynnig i garfan o hyd at 12 o fentoreion / ymarferwyr creadigol o gymunedau Cymraeg eu hiaith a rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru.

Cynlluniwyd Camu i Mewn gan WAHWN mewn ymgynghoriad â’r sector mewn ymateb i’r diffyg amrywiaeth yn y gweithlu celfyddydau ac iechyd creadigol. Bydd y rhaglen yn helpu i feithrin y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd eu hangen i gyflwyno prosiectau mewn lleoliadau celfyddydau ac iechyd, drwy hyfforddiant, cysgodi prosiect byw, mentora a chymorth gan gymheiriaid. Dyma mae mentoreion blaenorol wedi’i ddweud am gynllun peilot Camu i Mewn.

Camu i Mewn ei gyflwyno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Fran Wen, Pontio, Theatr Cymru a Hamdden Sir Ddinbych Ltd.

Bydd y rhaglen yn cefnogi cyfranogwyr wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi ddwys wythnos o hyd, cysgodi artist profiadol ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol am hyd at 10 diwrnod, a derbyn sesiynau mentora, bwrsariaeth a chymorth cofleidiol, gan gynnwys goruchwylio a chymorth cymheiriaid.

Galw am Fentoreion:

  • Ydych chi’n ymarferydd creadigol yng ngogledd Cymru (unrhyw ffurf gelfyddydol) a/neu yn ymarferydd yn gweithio mewn lleoliad iechyd?
  • Ydych chi’n angerddol ynghylch defnyddio eich sgiliau i gefnogi iechyd a llesiant pobl drwy ymgysylltu creadigol?
  • Ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl?
  • Oes gennych chi brofiad byw o un neu fwy o’r canlynol: hunaniaeth mwyafrif byd-eang, heriau iechyd meddwl, anabledd, b/Byddar a niwroamrywiol, LHDTCA+
  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen gyda chefnogaeth sydd wedi’i hanelu at amrywio’r gweithlu celfyddydau ac iechyd?
  • Hoffech chi weithio a chael profiad gyda chorff celfyddydau ac iechyd yng ngogledd Cymru?

Os yw o leiaf 5 o’r rhain yn berthnasol i chi, gallai Camu i Mewn fod yn iawn i chi!

Dyddiad cau: 12pm, Dydd Mawrth 18 Mawrth 2026