Theatr Clwyd yn lansio rhaglen datblygu artistiaid Cymreig nodedig: Stiwdio Clwyd

Mae Theatr Clwyd wedi lansio menter datblygu artistiaid genedlaethol Cymru, Stiwdio Clwyd, i gefnogi gwneuthurwyr theatr ledled Cymru. Yn foment drobwynt i Gymru, mae’r rhaglen yn darparu datblygiad proffesiynol uchelgeisiol ar gyfer ymarfer artistig, sgiliau technegol ac arloesedd.

Wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad John Ellerman , mae Stiwdio Clwyd yn ymateb i’r gydnabyddiaeth bod angen cyfleoedd dysgu deinamig ar wneuthurwyr theatr proffesiynol drwy gydol eu gyrfaoedd. Bydd cyllid hollbwysig yn galluogi artistiaid a gweithwyr llawrydd yn uniongyrchol i gymryd rhan yn y rhaglenni newydd.

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru :

“Mae’r fenter hon yn ymateb wedi’i dargedu i’r anghenion a nodwyd yn yr Adolygiad o Theatr Saesneg. Pwysleisiodd yr adolygiad hwn fod ecoleg theatr iach yn dibynnu ar ei phobl a nododd fylchau strwythurol o ran rhaglenni mentora a chyfleoedd datblygu gyrfa. O ganlyniad i ymgynghoriad Stiwdio Clwyd â dros 1,300 o wneuthurwyr theatr, a chyda chonsortiwm o bartneriaid, rydym yn falch o fod yn buddsoddi mewn gosod datblygiad proffesiynol wrth wraidd twf ein sector.”

Mae rhaglen agoriadol Stiwdio Clwyd yn cynnwys Russell T Davies , Rakie Ayola a Daniel Evans o’r RSC, yn ogystal â phartneriaethau â sefydliadau mawr gan gynnwys y Theatr Genedlaethol a Factory International. Mae’r rhaglen yn cyfuno digwyddiadau byw a digidol, cyfleoedd llwyfan ac adnoddau traws-sector i ddod â gwneuthurwyr theatr ynghyd ar draws disgyblaethau. Bydd Stiwdio Clwyd yn cael ei gyflwyno o walesmakestheatre.com ac yng nghartref ailddatblygedig Theatr Clwyd yn Sir y Fflint.

Dywedodd Suzanne Bell, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd :

“Mae Stiwdio Clwyd ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r sgyrsiau ysbrydoledig rydyn ni wedi’u cael gyda gwneuthurwyr theatr wedi ein harwain i greu platfform eclectig ac encil creadigol ar gyfer twf artistig parhaus. Mae cydweithio, agoredrwydd a haelioni artistig wrth wraidd yr hyn y byddwn ni’n ei gyflawni – dyma ddechrau ein taith gyda’n gilydd.”

Mae lansiad Stiwdio Clwyd yn cynnwys:

Rhwygo’r To I Ffwrdd – Rhaglen â thâl ar gyfer dylunwyr, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr yng nghanol eu gyrfa
ac awduron i gamu ymlaen i greu gwaith ar raddfa fawr trwy breswylfeydd, lleoliadau,
gweithdai a mentora

Gwreichion – Cynllun pwrpasol sy’n caniatáu i artistiaid gael amser a lle â thâl gamu oddi ar felin draed
creu sioeau i adlewyrchu a dyfnhau eu harfer, wedi’u mentora gan ffigurau blaenllaw yn y diwydiant.

Ysbrydoli – Cyfres o gyfweliadau manwl gydag arweinwyr celfyddydol gan gynnwys Daniel Evans (RSC), yr actorion Rakie Ayola a Rhys Ifans a’r cyfarwyddwr Jon Gilchrist MBE, gyda Sian Lloyd (BBC).

Ysgrifennwch Gyda… (gyda Theatr Sherman) – Gofod ar-lein cymunedol i awduron archwilio eu harfer a datblygu eu gwydnwch a’u hatebolrwydd eu hunain. Mae siaradwyr gwadd yn cynnwys Russell T Davies a Sian Owen.

Gair i Gall – Cynllun awduron a chyfarwyddwyr Cymraeg i ddatblygu, herio a chryfhau sgriptiau, o syniadau cynnar i gynyrchiadau ar raddfa fawr.

Bydd y rhaglenni blaenllaw hyn yn cyd-fynd â lleoliadau, rhwydweithiau mentora, dosbarthiadau meistr ar-lein ac ehangu Rhwydwaith Artistiaid Lleol Theatr Clwyd.

Dywedodd Kate Wasserberg, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd :

“Mae Stiwdio Clwyd yn uchelgais ers tro byd i Theatr Clwyd a sector theatr Cymru. Bydd yn newid cenedlaethau, yn agor gorwelion newydd i artistiaid Cymru ac yn sicrhau bod ein gwneuthurwyr theatr yn tyfu ac yn helpu i feithrin celfyddyd fywiog, allblyg ac uchelgeisiol yng Nghymru.”

Mae Stiwdio Clwyd yn cael ei lansio ar 26 Ionawr 2025 , ac yn cael ei ariannu gan Theatr Clwyd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad John Ellerman, Sefydliad Cameron Mackintosh, Ymddiriedolaeth Noel Coward a StageOne. Ymhlith y partneriaid presennol mae Theatr y Sherman, Theatr Cymru, Frân Wen, Loyalty Arts, y Theatr Genedlaethol, y Royal Shakespeare Company, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Creu Cymru a RCTC.