Rhaglen flaenllaw i gefnogi Dramayddiaeth yn yr Iaith Gymraeg
Mae Gair i Gall yn rhaglen uchelgeisiol ar gyfer theatr yn yr iaith Gymraeg – cefnogaeth bwrpasol ar gyfer datblygu sgiliau dramayddiaeth sy’n seiliedig ar destun a rôl y dramatwrg wrth greu gwaith newydd.
Wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer artistiaid sy’n gweithio yn yr iaith Gymraeg, bydd y rhaglen yn dod â dramodwyr a chyfarwyddwyr sydd â diddordeb mewn ysgrifennu newydd at ei gilydd i archwilio sut mae dramâu newydd yn cael eu datblygu, eu herio a’u cryfhau – o syniadau cynnar i uchelgais ar raddfa fawr – gyda chefnogaeth dramatwrgiaid arobryn.
Mae’r rhaglen yma o ddramayddiaeth gyda thâl yn cynnig amser, adnoddau a chydweithrediad i ddramodwyr a chyfarwyddwyr yn yr iaith Gymraeg i ddatblygu gwaith uchelgeisiol sy’n seiliedig ar destun yn y dyfodol.
Dyma ddatganiad o ymrwymiad Stiwdio Clwyd i greu theatr yn yr iaith Gymraeg
Mae Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, Suzanne Bell, yn barod iawn i nodi nad yw Gair i Gall yn gwrs hyfforddi cyffredin. “Nid rhaglen ‘sut i’ yw hon,” eglura, “does dim un fformiwla unigol ar gyfer datblygu drama wych.” Yn lle hynny, mae Suzanne yn ychwanegu, “mae’r siwrnai’n ymwneud â’r adnoddau i helpu crëwyr theatr i sicrhau bod drama’n cyflawni ei huchelgais theatrig – o ymchwil cefndir a strwythur y stori i’r dewisiadau sy’n ei chysylltu â’r gynulleidfa.“
Yn greiddiol i Gair i Gall mae ei grŵp cyntaf – naw crëwr theatr nodedig o bob cwr o Gymru. Mae Mary Davies o Sir Gaerfyrddin a chwblhaodd ei PhD gyda’r Royal Shakespeare Company. Mae Melangell Dolma, o Wynedd, yn actores, dramodydd a chyfarwyddwr sydd wedi cael premiere ei drama gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Sarah Bickerton, oedd yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Theatr Cymru, yn cyfrannu profiad ar draws byd y ffilm, teledu a theatr. There’s Mary Davies from Carmarthenshire, who completed her PhD with the Royal Shakespeare Company. Melangell Dolma, from Gwynedd, is an actor-playwright-director whose debut premiered at the National Eisteddfod. Sarah Bickerton, formerly Associate Director at Theatr Cymru, brings experience across film, TV and theatre.
Mae Gwawr Loader, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, yn ddramodydd ac yn actores y mae ei gwaith diweddar yn cynnwys gwaith gyda Theatr y Sherman, Theatr Na n’Òg a Theatr Clwyd. Mae gan Rhiannon Mair PhD ymarferol yn y Gymraeg. Fe greodd Leo Drayton, awdur cwiar traws o Gaerdydd, hanes pan ddaeth Dy Enw Marw y ddrama gyntaf i gael ei llwyfannu yn y Gymraeg yn y National Theatre yn Llundain. Yn cwblhau’r criw mae Nia Medi, sy’n dychwelyd at ei chariad cyntaf, sef ysgrifennu; gweithiwr creadigol dwyieithog sydd wedi’i fagu ar Ynys Môn, Tom Mumford, cydsylfaenydd y grŵp sain cwiar Coven Xperience; a’r nofelydd a’r bardd o Gaernarfon, Kayley Roberts, y mae ei gwaith yn hyrwyddo lleisiau sydd ar y cyrion yn niwylliant Cymru.
Mae’r rhaglen yn dod â chriw gwych o ymarferyddion at ei gilydd. Derbyniodd Suzanne Bell ei hun Wobr Kenneth Tynan am Ragoriaeth mewn Dramayddiaeth. Yn ymuno â hi mae’r dramatwrg arobryn Jeanie O’Hare; y cyfarwyddwr a enwebwyd am wobr Olivier, Guy Jones; Lowri Morgan, Cyswllt Llenyddol yn Theatr y Sherman gyda’i drama Ceridwen wedi teithio o amgylch Cymru y llynedd; Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen; a Bethan Marlow, a enwebwyd am Wobr Torri Trwodd BAFTA Cymru.
Y gobaith yw y bydd Gair i Gall yn gwneud mwy na datblygu unigolion, bydd hefyd yn creu gofod i gydweithredu a thrafod – gan osod y sylfaen ar gyfer sîn theatr yn y Gymraeg sy’n fwy hyderus, cysylltiedig ac uchelgeisiol yn greadigol.
Carfan Gair i Gall











