Rhannu Ymchwil a Datblygu yn Ddigidol

External Opportunity

Mae Creu Cymru, mewn partneriaeth â PYST Cyf (sy’n rhedeg llwyfan digidol Am), yn cynnal prosiect peilot i rannu canlyniadau gwaith ymchwil a datblygu gan gwmnïau theatr ac artistiaid o Gymru yn ddigidol. Bydd y fenter hon, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei chynnal ym mis Mai 2026, gyda’r nod o wella gwelededd, cysylltedd a deialog ynghylch gwaith creadigol cam cynnar.

Gall artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a datblygu ar gyfer cynyrchiadau rhwng 1 Chwefror ac 11 Mai wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun peilot.

Bydd y ffenestr ddigidol hon yn ei gwneud yn fwy hygyrch i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ledled Cymru a thu hwnt i ymgysylltu â gwaith newydd yn ei gam ffurfiannol.

Yn dilyn yr arddangosfa ar-lein, bydd Creu Cymru yn cydlynu cyfarfod ar-lein rhwng artistiaid a chrewyr theatr, cynhyrchwyr a chynrychiolwyr lleoliadau. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol ofyn unrhyw gwestiynau egluro ac yn rhoi cyfle i’r artistiaid sy’n cyflwyno siarad ymhellach am eu gwaith. Dylai hyn i gyd feithrin ysbryd agored, gan alluogi cwestiynau, adborth a thrafodaeth.

Meini Prawf Dethol:

  • Artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a datblygu rhwng 1 Chwefror ac 11 Mai.
  • Artistiaid a chwmnïau sy’n bwriadu cyflwyno eu gwaith yn ystod y 2 flynedd nesaf.
  • Artistiaid a chwmnïau Cymreig neu yng Nghymru.
  • Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod rhwng 10-30 munud o hyd. Eich penderfyniad chi yw a yw hyn yn cynnwys amser i gyflwyno eich hun a’r darn.
  • Bydd angen i artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan fod yn gyfrifol am ffilmio eu gwaith a darparu’r deunyddiau digidol i PYST Cyf erbyn 11 Mai. Gallwch gysylltu â PYST Cyf am gyngor ynghylch fformatau ac ati.
  • Dylid cynnwys capsiynau lle bo hynny’n bosibl. Os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni.   
  • Bydd angen i’r rheini sy’n dymuno cymryd rhan lenwi ffurflen wybodaeth y gellir ei rhannu â’r rheini sy’n edrych ar y gwaith. Bydd hyn hefyd yn rhan o’r broses ddethol.
  • Bydd angen i artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan fod yn gyfrifol am glirio unrhyw hawliau i wylio ar-lein gyda chynulleidfa gyfyngedig a wahoddir.
  • Gall artistiaid a chwmnïau gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu ddim iaith).
  • Sylwch, nid oes cyllid ychwanegol ar gael i gymryd rhan. Dylech gynnwys unrhyw gostau cysylltiedig yn eich cyllideb / cais. Efallai y gallwn helpu gyda chapsiynau a chyfieithu deunyddiau os oes angen, felly siaradwch â ni os ydych chi’n meddwl bod angen cymorth arnoch chi.

Dyddiad cau: Dydd Llun 4 Mai 2026