Cosi & Scratch 2026

External Opportunity

Mae Cosi & Scratch yn ôl ar gyfer 2026!

A oes gennych chi syniad newydd sy’n cosi ac yn dymuno amser i’w ddatblygu? Mae Pontio yn falch iawn o gynnig cyfle cyflogedig i 4 artist i weithio a dangos darn newydd o waith byw mis Hydref. Gall y gwaith fod mewn unrhyw genre byw e.e. Theatr, Syrcas, Dawns, Cabaret, Comedi, Sioe Gerdd neu unrhyw arddull fyw arall. Mae yna groeso i geisiadau sy’n gyfuniad o ffurfiau.

Cewch amser, gynulleidfa a chyflog i brofi a datblygu syniad newydd. Penllanw’r cyfnod datblygu bydd perfformiad Scratch yn Stiwdio Pontio gyda chynulleidfa fyw.

Rydym yn edrych am artistiaid sydd yn byw yng Ngogledd Orllewin Cymru neu sydd â chysylltiadau cryf gyda’r ardal. Rydym yn awyddus i feithrin a chefnogi crëwyr theatr, dawnswyr, ysgrifenwyr, perfformwyr lleol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid ar unrhyw gyfnod o’u gyrfa.

Dyddiadau Pwysig:

Dyddiad cau y Cais (Ysgrifenedig, Clywedol neu Fideo): Dydd Sul 3 Mai am Hanner Nos
Cais ar ffurf cyflwyniad wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dymuno: Dydd Mercher 29 Ebrill
Cysylltu â phob ymgeisydd gyda chanlyniadau’r ceisiadau: Dydd Gwener 8 Fai
Cyflwyniad technegol i’r Stiwdio: Wythnos yr 8fed o Fehefin
Un diwrnod o ymarfer yn Pontio: 20 – 23 Gorffennaf
Diwrnod Technegol a Pherfformiad: Dydd Iau 23 Gorffennaf
Sesiwn Adborth a Gofal: Dydd Iau 30 Gorffennaf, 11am – 2pm

Ffioedd:

Bydd ffi o £700 yn cael ei gynnig i bob artist am y prosiect gyda £60 yn ychwanegol ar gyfer y sesiwn adborth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 3 Mai 2026