Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Pinocchio

Cyfle Theatr Clwyd

Rydyn ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol i gefnogi ein cynhyrchiad sydd i ddod o Pinocchio: The Rock ‘n’ Roll Panto gan Christian Patterson, wedi’i gyfarwyddo gan Dan Lloyd, dychweliad ein panto blynyddol hynod lwyddiannus gyda cherddoriaeth fyw a’r caneuon roc, pop a soul mwyaf poblogaidd.

Ein huchelgais ni ar gyfer y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yw darparu profiad manwl i gyfarwyddwr cyffrous ar ddechrau eu gyrfa sydd nid yn unig yn canolbwyntio ar y broses ymarfer ond sydd hefyd yn cwmpasu’r amrywiaeth o ffyrdd y gall cyfarwyddwr weithio gyda theatr i greu siwrnai yrfa gynaliadwy. Bydd yn darparu cyfle sy’n gynyddol brin yn nhirlun y theatr ac mae’n rhywbeth y mae gan Theatr Clwyd enw da am ei gyflwyno mewn ffordd sy’n cael effaith barhaol ar siwrnai a chyfleoedd gyrfa’r crëwr theatr.

Mae’r cyfle yma’n agored i gyfarwyddwyr theatr yng Nghymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sydd wedi’u lleoli o fewn 25 milltir i Theatr Clwyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru neu sydd â mynediad at leoliad aros o fewn y pellter hwnnw, sydd dros 18 oed, sydd â chefndir amlwg mewn cyfarwyddo theatr ac sydd eisiau datblygu eu harfer ymhellach.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 28 Mai 2026


Eisiau cael gwybod mwy?

Fe allwch chi ymuno â ni am sesiwn holi ac ateb ar-lein

1pm ddydd Mawrth 19 Mai
6pm ddydd Mercher 20 Mai

E-bostiwch stiwdio@theatrclwyd.com i gofrestru.