Cyfle Theatr Clwyd
Rydyn ni’n chwilio am Gynhyrchydd Cynorthwyol i gefnogi ein cynhyrchiad sydd i ddod, yn cael ei gyfarwyddo gan Francesca Goodridge – cynhyrchiad teithiol newydd mawr ac ail gynhyrchiad Partneriaeth Craidd.
Mae Craidd yn gydweithrediad uchelgeisiol ledled y sector ar draws pum sefydliad theatr yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i drawsnewid cynrychiolaeth DDN (Byddar, anabl a niwroamrywiol) mewn theatr brif ffrwd.
Fel rhan o bartneriaeth Craidd, mae’r rôl hon ar gyfer cynhyrchydd sydd ar ddechrau ei yrfa sydd â chysylltiadau cryf â Chymru oherwydd ei fod wedi’i eni neu ei fagu yng Nghymru neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, ac sy’n uniaethu fel byddar, anabl a / neu niwroamrywiol. Bydd yn elwa o becyn cefnogi unigryw a phwrpasol drwy Theatr y Sherman, Stiwdio Clwyd a Craidd.
Hefyd, ein huchelgais ni ar gyfer y Cynhyrchydd Cynorthwyol yw darparu profiad manwl o wneud gwaith teithiol ar raddfa fawr i gynhyrchydd cyffrous sydd ar ddechrau ei yrfa. Bydd yn darparu cyfle sy’n gynyddol brin yn nhirlun y theatr, ac mae’n rhywbeth y mae gan Craidd enw da am ei gyflawni mewn ffordd sy’n cael effaith barhaol ar siwrnai a chyfleoedd gyrfa’r crëwr theatr.
Mae’r lleoliad yma ar agor i gynhyrchwyr theatr sy’n uniaethu fel Byddar, Anabl a / neu Niwroamrywiol, sydd dros 18 oed ac sydd â chefndir amlwg mewn cynhyrchu theatr ac sydd eisiau datblygu eu harfer ymhellach. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan gynhyrchwyr DDN sy’n ceisio dychwelyd i’r diwydiant ar ôl cyfnod o seibiant – am ba reswm bynnag – ac sydd eisiau ailintegreiddio i ddiwydiant y theatr.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 18:00, 9 Mehefin 2026
Eisiau cael gwybod mwy?
Fe allwch chi ymuno â ni am sesiwn holi ac ateb ar-lein
- 12:30, Dydd Iau 4 Mehefin 2026
- 17:30, Dydd Gwener 5 Mehefin 2026 (gyda BSL)
E-bostiwch stiwdio@theatrclwyd.com i gofrestru


