Mae Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant Preswyl Theatr Clwyd yn gyfle nodedig i gyfarwyddwr theatr sydd ar ddechrau ei yrfa ac sydd â chysylltiad â Chymru dreulio 18 mis yn Theatr Clwyd yn gweithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu hyfforddiant manwl a gwybodaeth am redeg theatr gynhyrchu fawr. Bydd y cyfarwyddwr yn gweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau Theatr Clwyd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Theatrau Moondance a Weston, ac ar brosiectau eraill. Bydd yr Hyfforddai hefyd yn treulio amser gyda phob tîm yn Theatr Clwyd, gan sicrhau dealltwriaeth lawn a thrylwyr o bob agwedd ar greu, cynhyrchu a rhedeg darn o theatr. Hefyd bydd y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant yn cefnogi gwaith Stiwdio Clwyd, stiwdio ddatblygu genedlaethol ar gyfer crëwyr theatr o Gymru a’r rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Cyflog – £26,761
Cytundeb cyfnod penodol am 18 mis
Oriau – 37 yr wythnos
Dyddiad Cau – 26/10/2026
Mae’r sesiynau Cwestiwn ac Ateb ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y swydd ac sydd efallai â chwestiwn am y rôl. Byddant ar Zoom ar –
- Dydd Llun 12eg Hydref – 1yp – 2yp
- Dydd Iau 15eg Hydref – 5.30yp – 6.30yp
I fynychu sesiwn Cwestiwn ac Ateb, cofrestrwch drwy anfon e-bost at stiwdio@theatrclwyd.com a bydd y linc Zoom yn cael ei hanfon atoch.


