Arweinwyr y Dyfodol Cymru

Cyfle Allanol

Bydd rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Cymru – Cyfarwyddwr Cyswllt Carne yn mynd i’r afael â bwlch cydnabyddedig mewn llwybrau arwain ar gyfer cyfarwyddwyr theatr yng Nghymru.

Ei nod yw helpu i feithrin llif o Gyfarwyddwyr Artistig y dyfodol sydd wedi’u gwreiddio yng Nghymru, gan sicrhau bod gan sefydliadau gyfarwyddwyr Cymreig medrus sy’n barod i gamu i mewn i rolau arwain pan fyddant yn codi.

Bydd y rhaglen aml-flwyddyn hon yn cynnig tair rôl Cyfarwyddwr Cyswllt amser llawn, 18 mis o hyd, dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd y Cyfarwyddwyr Cyswllt wedi’u hymreiddio yn y Sherman a byddant yn ennill profiad mewn rhaglennu, strategaeth sefydliadol, codi arian, partneriaethau, llywodraethu a rheoli staff.

  • O gyfarwyddo theatr i arwain sefydliadau
  • Mynd i’r afael â’r bwlch mewn llwybrau arwain ar gyfer cyfarwyddwyr theatr
  • Rhaglen arwain newydd o bwys ar gyfer cyfarwyddwyr theatr yng Nghymru
  • Tri chyfle Cyfarwyddwr Cyswllt cyflogedig 18 mis dros 5 mlynedd