Artist Cyswllt

External Opportunity

Ymuna â thîm Frân Wen i greu, cyfarwyddo ac arbrofi

Rydyn ni’n chwilio am artist brwdfrydig, chwilfrydig a llawn syniadau i ymuno â Frân Wen am flwyddyn o greu, cyfarwyddo ac arbrofi.

Dyma gyfle i ddatblygu dy lais a dy ymarfer artistig.

  • Cyfarwyddo dau gynhyrchiad
  • Is-gyfarwyddo cynhyrchiad proffesiynol ochr yn ochr â’r cyfarwyddwr Amy Leach, sydd wedi cael ei henwebu am Wobr Olivier ac wedi ennill Gwobr UK Theatre
  • Cyd-greu, arbrofi a datblygu syniadau
  • Gweithio gydag artistiaid proffesiynol, pobl ifanc a chymunedau
  • Bod yn rhan o fywyd creadigol Nyth, Bangor


Does dim rhaid i ti fod wedi gwneud popeth yn barod. Os oes gen ti rywfaint o brofiad, greddf artistig ac awydd i gamu ymlaen rydyn ni eisiau clywed gen ti.

  • Manylion
  • Teitl: Artist Cyswllt
  • Lleoliad: Nyth, Bangor, gyda gwaith mewn lleoliadau eraill yn ôl gofynion y rhaglen
  • Cytundeb: Tymor penodol o flwyddyn i gychwyn mor fuan â phosibl
  • Iaith: Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
  • Yn atebol i: Cyfarwyddwr Artistig
  • Cyflog: £30,000
  • Oriau: 38 awr yr wythnos gan gynnwys oriau anghymdeithasol / penwythnos
  • Dyddiad cau: 09 Hydref 2026
  • Cyfweliadau: W/C 12 Hydref 2026

Oherwydd natur y gwaith gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, bydd yr apwyntiad yn amodol ar y gwiriadau diogelu perthnasol a thystlythyrau boddhaol.