Cyswllt Creadigol (Cytundeb Cyfnod Penodol) – Theatr Clwyd

Y Rôl

Datblygu ac arwain mentrau Cymunedau o ansawdd uchel a diddorol. Cymryd rhan greadigol ac ymarferol wrth gyflwyno prosiectau, gweithdai a digwyddiadau. Bod yn eiriolwr dros y gwaith a wnawn gyda phobl ifanc, y gymuned ehangach a’r celfyddydau ac iechyd, gan wneud y mwyaf o gydweithrediadau a phrosiectau a chyfrannu at y weledigaeth gyffredinol sy’n adeiladu ar ein henw da am ragoriaeth, dysgu creadigol ac ymgysylltu ystyrlon.

Y Person

Hanfodol:

  • Profiad o gyflwyno gweithdai i amrywiaeth eang o oedrannau a chefndiroedd.
  • Profiad sylweddol o weithio gyda’r gymuned.
  • Sgiliau hwyluso, gyda’r gallu profedig i ddefnyddio dulliau gweithio methodolegol, creadigol ac sy’n cael eu harwain gan ganlyniadau.

Math o Gontract- Cytundeb Cyfnod Penodol -13/04/2026 – 31/12/2026

Oriau – 6.5 yr wythnos

Dyddiad cau – Dydd Iau 19 Mawrth 2026